Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BENITO MUSSOLINI A CHYCHWYNIAD FFASCISTIAETH. I. GANWYD y Signor Mussolini mewn pentref yn ymyl Forli, i'r dehau-ddwyrain o dref Bologna, Gorffennaf 29, 1883; y mae felly naw mlwydd yn iau na Mr. Winston Churchill. Cadwai ei dad, Alexander Mussolini, dafarn yn y pentref, ac ef hefyd oedd gôf y pentref. Rhoes yr enw Benito ar ei fab ar ôl un o'i arwyr, Benito Juarez, arweinydd gwrth- ryfel Mecsico yn erbyn yr Ymherawdr Macsimilian. Hyd- ddydd ei farw yn 1910 yr oedd Alexander y gôf yn Sosial- ydd eithafol, ac yn elyn chwerw i glericaliaeth. Mewn ys- tafell uwch ben yr efail yr oedd ysgol bentref a gedwid gan wraig y gôf, Rose Mussolini; ac yno y dysgodd Benito ddarlleh a sgrifennu. Aeth wedi hynny i ysgol fwy, dan ofal athro; a chan ei fod yn ddysgwr cyflym, crefai ei fam ar i'r tad fodloni iddo gael myned i academi a gedwid gan offeiriaid. O'r diwedd cytunodd Alexander Mussolini, ac aeth Benito mewn trol ful i ysgol lety Babyddol. Yr oedd yn efrydydd da, ond yno y dechreu- odd deimlo oddi wrth osod dosbarth yn erbyn dosbarth. Yr oedd tair bord yno, un i feibion y bobl fawr, arall i'r cyffredin, ac arall i'r tlodion; wrth yr olaf yr eisteddai Benito. Aeth o'r academi i fyned yn athro-efrydydd; gwyddai Ladin a Hanes Rhufain yn lled dda, eithr credai mai anarchiaeth a gwrth-glerigaliaeth ei dad oedd sylfaen pob iawn farnu ar bynciau cymdeithasol. Yn ddeunaw oed, cafodd Ie fel athro ar ddosbarth o blant bach, am gyflog o 56 swllt Italaidd y mis, a thalai 40 swllt y mis am fwyd a llety. Treuliai ei oriau hamdden i ddysgu canu'r crwth, darllen Karl Marx, aic annerch hynhy o gyfarfodydd a fyddai o fewn ei gyrraedd. Buan y blinodd ar undonedd bywyd athro mewn pentref, a phenderfynodd fentro y tu hwnt i derfynau'r Eidal. Gyda 45 swllt Italaidd a gawsai'n rhodd gan ei rieni, aeth i Filan, yna i Chiasso, a thros y goror i'r Yswistir.