Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ddengys fel wedi ei fwriadu i gyfoethogi bywyd, ac nid yn unig i'w gynnal. Y mae'n anodd dirnad am brydferth- wch o'r fath yn deilliaw o ffynhonnell anneallus," ac "ymddengys fel pe'n gorfodir i ddod i'r casgliad y rhaid ddarfod i Dduw, heu yn sicr i ryw Achos o fath arall, deallus a charedig, beri i'r byd gael ei wisgo mewn pryd- ferthwch" (td. 221). Ymhellach, rhaid i'r amheuwr, os yn onest ac yn ffyddlon i'r ffeithiau a genfydd, addef ar unwaith y can- fyddir yn y byd hwn o'r eiddom lawer o'r hyn na ellir ei alw ond daioni moesol. Ceir dynion cyfiawn ac anhunanol, a dyhion gwrol i wneud yr hyn a ystyriant yn iawn a rhaid i'r amheuwr egfluro o b'le daw'r daioná ymddangosiadoil hwn, a rhoddi ei esboniad ei hun ar darddiad y ffeithiau moesol hyn (td. 220). Wrth briodoli y ffeithiau hyn i Natur ni wnâ'n amgen na gwisgo Natur ei hun â dwyfoldeb. (4) Mewn atebiad i wrth-ddadl yr amheuwr na ddilynir ymddygiad moesol yh uniongyrchol gan ganlyniadau nat- uriol dymunol, dywaid Syr Henry y gwasanaetha ihyn eto i amcanion moesol. Tuedda hyn i ffafrio moesoldeb. Pe dilynid gweithred dda neu weithred ddrwg yn union- gyrchol gan ganlyniadau naturiol dymunol, buasai'r apel at gymhelliad anfoesol. Fel y mae pethau, y mae can- lyniadau gweithred dda heu weithred ddrwg yn union- gyrchol yn ei heffeithiau ar gymeriad, ac ymhellach dis- gyn y canlyniadau yn uniongyrchol ar y dyn ei hunan, ac nid effeithia ond yn anuniongyrchol ar eraill" (td. 232). Cydnebydd yr awdur fod problem drygau naturiol yn gymharol hawdd, o'i chymharu â phroblem pechod heu ddrygioni moesol. Er y gall drygau naturiol fod yn gyf- ryngau daioni moesol ac ysbrydol, ac er nad ydynt yn ddrwg nac yn dda ynddynt eu hunain, y mae i ddrwg moesol nodwedd derfynol (ulümate) fel sydd i ddaioni moesol. Ni allwn ei ail-^brisio yng ngoleuhi rhywbeth arall. Condemnir gweithred ddrwg ynddi ei hun. Arwain hyn ni at fater arall, sef, tarddiad pechod a natur pechod, ond ni chaniatâ ein gofod inni ymdrin ag ef yma. Llangollen. J. ELIAS Hughes.