Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Athrawiaeth y Drindod (AIL YSGRIF). Yn ein hysgrif flaenorol* ceisiwyd olrhain datblygiad athrawiaeth y Drindod, o ddysgeidiaeth grefyddol rymus ac awgrymiadol ond anghyfundrefnol y Testament Newydd, hyd at y datganiad ohoni fel dogma uwchanianol gorffenedig a sefydlog tua diwedd y bed- waredd ganrif ac yn ystod y bumed. Gwelsom mai peth tra anodd, onid yn wiir amhosibl, yw derbyn y dogma eglwysig yn ddeallus heb lithro naill ai i heresi Moddaeth neu Sabeliaeth ar un ochr, neu ynteu i heresi Tri-dduwiaeth ar yr ochr arall. Yn yr ysgrif hon ceisiwn drafod y mater drosom ein hunain mewn modd cwbl rydd, gan amcanu bod yn deyrngar i hanfodion y profiad Cristnogol, eithr heb straenio i wasgu ein meddwl i fold anhyblyg y dogma catholig. Nid ydym yn addo y gallwn osod ein credo o fewn llinellau caeth diffiniad gorffenedig yn unol â phatrwm credoau swyddogol yr Eglwys. Ond fel y dy- wedasom, ni wneir hynny chwaith yn y Testament Newydd ei hun. i Nid ymgeisiwn at orchwyl mor feiddgar â dadansoddiad eithaf o gyfansoddiad mewnol a thragwyddol y Duwdod. Gwell inni ymfodloni ar y dasg fwy gostyngedig o geisio diogelu gwerth crefyddol athrawiaeth y Drindod, fel crynodeb cyfleus o'r prif arweddau y daw Duw drwyddynt yn wybyddus i ddyn ac yn ffaith i'w brofiad. O'i mynegi'n hollol syml saif yr athrawiaeth am y gred yn yr un Duw personol, y Tad hollalluog, fel y'i datguddir ym mherson hanesyddol Ei Fab Iesu Grist, ac fel y mae bob amser trwy Ei Ysbryd yn preswylio yng nghalonnau a bywydau dynion, yn unigol ac yn gymdeithasol. Neu o'i mynegi'n fwy diamwys yn nhermau swyddogaeth, saif am y gred mewn un Duw personol sydd fel Tad yn Grëwr a Chynhaliwr y cyfanfyd, fel Mab yn Waredwr y byd, a'i weithgarwch gwaredigol yn cyr- *Gwder Y Traethopydd, Gorffennaf, 1932.