Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

"Y Winwydden ym Môn" FE wyr pawb mai'r cryfaf o gryn lawer o'r llwythau crefyddol yng ngwlad Môn yw'r Methodistiaid Calfinaidd. Y mae hanes dechreuad y Cyfundeb yn y Sir yn faes ymchwil sydd eto heb ei gerdded i ddim pwrpas. Daw llu o gwestiynau y carai un gael ateb iddynt megis â chofio i'r Annibynwyr gael yr afael gyntaf ar y wlad, pa fodd y bu i'r Methodistiaid ennill y fath dir ?" "Beth oedd perthynas yr Annibynwyr â'r Methodistiaid wedi eu dyfod i'r maes?" "Pa hyd y daliodd yr erlid ar yr Annibynwyr?" A fu i ddyfodiad y Cenhadon Methodistaidd liniaru'r erlid ar yr Ymneilltuwyr yn gyffredinol?" &c. Ceisir yma gychwyn ateb rhai o'r holiadau hyn. i Pan symudodd William Prichard, yr Anghydffurfiwr pybyr,o Las- fryn Fawr yn Eifionydd, a chroesi Moel-y-don i Blas Penmynydd, yn y flwyddyn 1742, fe ddaeth i Fôn rym cynhyrfiol. Gellir yn deg ei alw ef yn arwr crefydd rydd ac ysbrydol. Yr oedd yn y wlad hon rai Dissenters glew yma ac acw cyn ei ddyfod, ond ef roes yr hyder a'r ysgogiad newydd yn y grefydd anghydffurfiol. Fe'i herlidiwyd ac fe'i hymlidiwyd o fan i fan, ond daliodd ei fwa yn gryf nes gorffen ohono ei ddyddiau yng Nghlwchdernog. A def- nyddio brawddeg Robert Jones, Rhoslan, ef a blannodd y win- wydden ym Môn." Y mae'n amlwg ddarfod i'r don ymneilltuol daro yn rymus ar dueddau Môn yn y blynyddoedd 1743-4. Yn y flwyddyn 1745 ys- grifennodd William Morris at ei frawd, Richard, nad oedd ychydig flynyddoedd cynt ond rhyw chwech o Dissenters, ond fod y wlad weithian yn llawn o'r Pengryniaid (Llythyrau'r Morrisiaid, Cyf. i. td. 53). Dweud go gryf oedd hwn, ond y mae'n siwr o fod yn onestach nag atebion yr offeiriaid i'r Esgob, Zachary Pearce, yn y flwyddyn 1749. Yr oeddynt, yn sicr, yn llawn ynni, ac fe roddai hynny lawer o flinder i'r Morisiaid. Fe'u hystyrid yn werth eu rhegi, a dweud y lleiaf, a'r syndod ydyw iddynt hwy, y brodyr Morris, o bawb, fethu â sylweddoli ystyr y mudiad newydd.