Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ystyr Geiriau Bwrier bod dyn yn anwybodus o ystyr y gair llarwydden." Try i eiriadur a gwêl y gair Saesneg larch, neu i eiriadur Cym- raeg a gwêl ddisgrifiad o risgl y pren, ei ganghennau, ei ddail, etc. Bydd y geiriau a wêl yn y geiriaduron yn egluro'r gair llar- wydden iddo, os llwyddant i'w arwain at y pren ei hun, a'i adna- bod. Y mae'n amlwg nad y geiriau a wêl yn y geiriadur yw ystyr y gair "llarwydden." Geiriau mwy neu lai cyfystyr ydynt hwy, yn cyfeirio at yr un gwrthrych. A diben geiriadur ydyw rhoddi, nid ystyr y gair, ond geiriau eraill sy'n gyfarwydd i'r darllenydd, geiriau a'i dwg i'r berthynas arbennig â'r gwrthrych y chwilia amdano, perthynas na allai'r gair "llarwydden ei ddwyn iddi oherwydd nad oedd y gair eisoes wedi ei gysylltu â'r pren yn ei brofiad personol. Y mae cyfieithu o un iaith i iaith arall yn llwydd- iannus i'r graddau y galluogir y darllenydd cyfarwydd i synio ac i deimlo at y gwrthrychau yr ymdrinir â hwy yr hyn a syniai ac a deimlai wrth ddarllen y geiriau yn yr iaith y cyfieithwyd ohoni. Gellir dweud tri peth am ystyr gair: (i) Dibynna ar ei berthynas â gwrthrych neu wrthrychau ar- bennig. Gwêl dyn ystyr gair pan wêl yr hyn a gynrychiola. (ii) Nid oes i air ystyr gynhenid. Arfer dynion ohono a rydd ystyr iddo. Wrth olrhain gair i'w wreiddiau olrhain hanes arfer pobl ohono a wneir, a hanes y newid a fu ar ei ystyr yn ystod y blynyddoedd. Dibynna ystyr gair i'r person unigol ar ei brofiad personol ynglŷn ag ef; a thuedda hwnnw i fod yn debyg i eiddo'i gymdogion, a thybia'r rheini fod ei arfer o air yn gywir os bydd yn debyg i'r eiddynt hwy. Adroddir am rywun yn cyfieiithu'n ddiweddar, "Arglwydd, arwain drwy'r anialwch," gyda "Lord, lead me out of this rubbish," cyfieithiad dilys ddigon i'r gwr a'i gwnaeth, oherwydd dyna'r unig fath ar anialwch oedd yn gysylltiedig â'r gair yn ei brofiad ef. Ni wyddai am ei gysylltiad- au hanesyddol. Y mae amrywiol safonau i farnu cywirdeb llen-