Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Tadolaeth UGAIN mlynedd i'r haf nesaf, wrth bregethu yn Sasiwn Harlech, ar "Dangos i ni'r Tad, a digon yw i ni," dywedodd y diweddar Barch. Dr. John Williams, Brynsiencyn, mai ychydig iawn o le yn ein diwinyddiaeth a gawsai'r gwirionedd am Dadolaeth Duw, ac iddo ef glywed y bregeth gyntaf ar y pwnc a draddodwyd mewn Sasiwn. Awgrymodd y dylai'r gwirionedd hwn gael rhagor o le ym meddwl yr Eglwys. Ni chamgymerem lawer pe dywedem mai rhywbeth yn debyg yn hyn o beth yw'r safle bre- sennol i'r hyn ydoedd ugain mlynedd yn ól. Gallwn ddychmygu rhywun yn dweud nad yw'r saint yn ddistaw am Dadolaeth Duw oni chyferchir Duw fel Tad ymron ymhob gweddi ? ac oni chenir emynau a wna hynny? Cydnabyddwn ninnau'n rhwydd y gwneir, ond dylem chwanegu mai ychydig ddylanwad a gaiff yr athraw- iaeth hon; os agorir y drws iddi a'i chroesawu, gofelir gan lawer am ei chadw rhag cael llais yn rheolaeth y ty. Neu â thynnu darlun arall, caniateir iddi lanw un o fân swyddau'r Llywodraeth, ond ni chaiff ei gwneuthur yn Brifweinidog. Y mae lIe i dybio bod ar rai diwinyddion ofn i'r athrawiaeth am Dduw'n Dad gael gormod o le ac o sylw; fe olygai hynny newid mawr ar aml gyfundrefn ddiwinyddol, a thynnu rhai syniadau i lawr o'r gorseddau yi eis- teddasant arnynt hyd yma. I Cymharol ychydig yw nifer y llyfrau sy'n trin yr athrawiaeth hon. Cyhoeddwyd yn ddiweddar, fodd bynnag, gyfrol Saesneg ar y pwnc hwn, cyfrol a haedda sylw. Yr awdur yw'r Parch. W. F. Lofthouse, D.D., un o wýr amlycaf y Methodistiaid Seis- nig, y cyfundeb newydd a ffurfiwyd drwy uno tri chorff crefyddol a olrheiniai eu tarddiad i bregethu John Wesley a'i gyd-weith- wyr. Prifathro Coleg Handsworth, Birmingham yw'r awdur, a "Weslead oedd ef cyn yr uniad. Teitl y gyfrol* yw "The •The FATHER AND THE Son A Study in Johannine Thought. By W. F. Lofthouse, D.D. Student Christian Movement Press, 58, Bloomsbury Street, Lor.don, W.C.i. 240 pp. 7/6.