Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Hamdden DIFFINIO'R TERM. Gwaith anodd ydyw rhoddi darnodiad manwl a chywir o'r hyn a gynhwysir mewn gair; oblegid defnyddir geiriau mewn ystyron ychydig yn wahanol mewn gwahanol ardaloedd, ac ar wahanol gyfnodau yn hanes pobl. Myn damcaniaeth datblygiad ei lIe ynglyn â thwf geiriau yn ogystal â thwf bywyd. Teimlwn fod hyn yn wir mewn modd amlwg, a neilltuol, gyda golwg ar y gair "hamdden." Anodd ydyw dod o hyd i air a ddefnyddir yn fwy rhydd, ac yn cynnwys eiliw o ystyron heb fod yn gwbl yr un, o ran yr hyn a gyfleant i'r meddwl. Gallwn ddychmygu'n hawdd am y gair yma'n golygu un peth pan yngenir ef gan un gwr, ond yn golygu rhywbeth heb fod yn gwbl gyfystyr pan yngenir ef gan wr arall; a hynny hyd yn oed yn yr un ardal, ac ar yr un adeg, heb sôn am ardaloedd eraill a chyfnodau gwa- hanol. Gall olygu gorffwys i un, ond difyrrwch i arall. Def- nyddir y gair yn yr un ystyr â'r geiriau a ganlyn gan wahanol bersonau, ac mewn gwahanol gysylltiadau ­seibiant, esmwyth- dra, adloniant, amser cyfaddas, cyfleustra, ennyd. Tybiwn mai y gair leisure ydyw'r cyfieithiad cywiraf o'r gair i'r Saesneg. Cawn fod yr un peth yn wir am y gair hwn hefyd yn Saesneg; ond efallai 'nad i'r un graddau â'r gair hamdden yn Gymraeg. Edrychwn i'n Geiriaduron, a chawn y geiriau can- lynol yn egluro'r gair leisure time free from employment, free- dom from occupation, ease, convenient opportunity. Pery yn y geiriau a nodwyd raddau o ystyr y gwreiddair, sef y Lladin, licêre, i'w ganiatáu, to be permittcd. Dywedir am y Groegiaid yn Athen gynt nad oeddynt yn cym- ryd hamdden i ddim arall (" spent their time to nothing else" (Moffatt) ). Nid yw'n hawdd canfod unrhyw wahaniaeth yn y cyswllt yna rhwng y defnydd a wneir o'r gair hamdden a phe dy- wedid amser. Gwelwn fod y gair a gyfieithir yn hamdden yn Llyfr yr Actau, yn cael ei gyfieithu yn encyd gan Dr. Morgan, a'r Cyfieithiad Awdurdodedig, ym Marc; ac yn ennyd gan Dr. Morgan, ac amser cyfaddas yn ôl y Cyfieith-