Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

II. Enwi Buchanan fel Arlywydd, 1856. Yn yr un flwyddyn ag y cyrhaeddodd G.R. ei fangre newydd, dychwelodd James Buchanan, Cennad yr Unol Daleithiau yn Llys Llundain, yn ôl i'w hen gartref ym Mhennsylvania. Ymhen ychydig amser, dewiswyd ef gan y Democratiaid, er ynghanol anghydwelediadau lawer, yn ymgeisydd am yr Arlywyddiaeth a oedd i'w llanw cyn diwedd y flwyddyn honno. Nid amddiffyn- wyr caethwasiaeth oedd holl aelodau'r blaid a safai tu cefn iddo, ond hwy oedd y rhan fwyaf ystyfnig ohoni. Yn erbyn Buch- anan safai John C. Fremont, cynrychiolydd plaid hen-newydd a oedd wedi atgyfodi hen enw, sef "Y Gweriniaethwyr" (Re- publicans). Ymhlilrh ei sÿlfaenwyr yr oedd igŵr o Illinois, o'r enw Abraham Lincoln. Prif amcan y blaid oedd atal unrhyw ychwanegiad at y rhannau hynny o'r Unol Daleithiau y caniateid caethiwed ynddynt: nid ei hamcan oedd ei ddiddymu yn y tal- eithiau He y bodolai; nid ei hamcan chwaith oedd dileu'r Fugi- tive Slave Law." Ond nid oedd ei gwahanol adrannau hyd yn hyn wedi asio yn ddigon llwyr i'w gilydd, a Buchanan a enillodd y dydd. Er bod agweddau canmoladwy yn ei gymeriad, eto, o edrych ar ei holl hanes, gwelir mai ar ochr diogelu caeth-wasan- aeth y safai fel rheol. Dechreuodd yr Arlywydd newydd ar ei waith Mawrth 4, 1857. Ddau ddiwrnod cyn hynny, darllenodd Taney, Prif Farnwr Llys Uchaf yr Undeb, ei ddyfarniad ar fater y teimlid diddordeb ang- erddol ynddo, sef apêl dyn du o'r enw Dred Scott at y Llys am ddatganiad ei fod yn wr rhydd. Ganwyd ef yn gaeth, ond sym- udodd gyda'i feistr i un dalaith rydd ar ôl y llall, ac wedyn yn ôl i Missouri gaeth: oddi yno gwerthwyd ef i feistr arall. Dadleu- ai'r negro, gan ei fod unwaith wedi trigiannu mewn talaith rydd, na ellid fyrh wedyn ei gaethiwo. Ond taflodd y Prif Farnwr yr achos dros y dnws, am nad oedd hawl, fel y casglai ef, gan neb ond dinesydd i apelio at Lys Uchaf yr Undeb, ac nad oedd yn bosibl, yn ôl ei farn ef, i gaethwas na disgynnydd iddo fyth ennill dinasyddiaeth. (Nid arhoswn i ystyried y ffaith biod llawer iawn o negroaid a fu unwaith yn gaeth ar restri dinasydd- iaeth nifer o daleithiau cyn i Taney gyhoeddi ei ddyfarniad ac wedyn). Ni fodlonodd y Prif Farnwr ar ddywedyd hynyna: