Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Dr. Lewis Edwards fel Beirniad Llenyddol a Bardd YN Ewrop y ddeunawfed ganrif oedd canrif Ffrainc. Canrif yr Almaen oedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn niwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r ganrif ddiwethaf cododd adwaith yn erbyn clasuriaeth Ffrainc. Daliai Carlyle mai a baleful incubus" oedd dylanwad Ffrainc o'i gymharu â the far nobler mind of Germany a dywedodd Coleridge fod beirniad- aeth y Ffrancod ar Shakespeare the judgements of monkeys by some wonderful phenomenon put into the mouths of people shaped like men Diolchodd Coleridge i Dduw yn gyhoeddus unwaith na fedrai ynganu'n gywir un frawddeg Ffrangeg. Darganfyddiad llenyddol pwysicaf Ewrop yn nechrau'r bedwar- edd ganrif ar bymtheg oedd darganfod yr Almaen. Darganfuwyd yno athroniaeth newydd, beirniadaeth lenyddol newydd, a bardd- oniaeth newydd. Y prif athronydd yn yr Almaen oedd Kant, ac yr oedd iddo ddisgyblion,­Fitche, Schelling a Hegel; a gwelir dylanwad athroniaeth Kant ar feirniadaeth lenyddol Jean Paul Richter, Schiller a Schlegel; beirniadaeth lenyddol athronyddol oedd hi. Gosododd yr athroniaeth ei delw hefyd ar farddon- iaeth Schiller, Richter a Novalis, ac, i raddau, ar farddoniaeth Goethe. Ffrances a fu'n byw yn yr Almaen oedd y cyntaf i ddatguddio i Ewrop athroniaeth a llenyddiaeth yr Almaen, cyn belled ag y gallai Ffrances eu dehongli, sef Madame De Staël yn ei llyfr, D' Allemagne Agorodd y llyfr hwn fyd newydd i Carlyle. Ar Coleridge a Carlyle yn Lloegr y ceir dylanwad yr Almaen drymaf. Dylanwad Kant a Schiller oedd yn bennaf ar Coleridge, a dylanwad Goethe, Fitche a Richter ar Carlyle. Nid oedd gan Coleridge feddwl uchel o Faust Goethe am fod llawer ohoni yn vulgar, licentious and blasphemous"; ond yr elfen- nau moesol a chrefyddol ym marddoniaeth Goethe a arweiniodd Carlyle oddi wrth ei amheuaeth a'i anffyddiaeth at ei grefydd Biwritanaidd-bantheistaidd. Bu Goethe iddo ef, meddai, yn iechydwriaeth. Erbyn tua 1830 yr oedd gan Goethe lawer o ddisgyblion ym Mhrydain, ac ymunodd pymtheg ohonynt i'w an-