Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cesglais fy hun y rhan fwyaf o'r enghreifftiau hyn o lên gwerin Cymru am y tywydd, ond cefais rai gan Gymdeithas Naturiaeth- wyr Caerdydd, a hoffwn gydnabod hynny. Rhof i ddechrau rai cyffredinol, yna rai misol. Diarhebir hefyd, heb drafferthu i odli, fod pyst dan yr haul yn arwydd glaw; sonnir am gafod blaen llanw, a choelir Sul teg, wythnos lawog." Rhof ddetholiad yn unig o'r coelion am y misoedd. Ionawr. Gwell gweld dodi mam ar elor Chwefror. Chwefror chwyth y deryn bach oddi ar ei nyth. Chwefror chwyth y neidr o'i nyth. Coelion Tywydd Tywyll fór a golau fynydd, Tegwch gawn ni yn dragywydd. Golau fôr a thywyll fynydd, Drycin gawn ni yn dragywydd. Os yn welw'r aiff haul i'w wely, Bydd yn glawio, meddir, fory. Os cyll y glaw, o'r dwyrain daw; Os cyll yr hindda, o'r dwyrain daw gynta'. Enfys y bore, glawia ei gore; Enfys brydnawn, tegwch a gawn. Pan fo'r gwynt a'r haul yn croesi, Cawod law geir yn ddioedi. Os daw mwg i lawr i'r stafell, Newid tywydd heb fod nepell. Pan fo mwg yn codi- n syth, Tywydd braf, ni fetha byth. Os boddi wna'r lleuad, Tywydd braf yn ddieithriad. Os gylfinhir yn groch a waedda, Storm o law cyn pen tridia. Os i'r de y try y gwynt, Dos, bysgotwr, ar dy hynt. Na gweld hinon deg yn Ionor.