Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Llythyrau William Williams o'r America at ei Frawd PwY oedd William Williams? Fe'i ganed yn Hafodlas, Llan- llyfni, yn 1798. Bu ei fam farw pan oedd ef yn faban, a lladd- wyd ei dad, William Roberts, yn y chwarel, ac yntau William ond naw mlwydd oed. Bu raid iddo droi allan yn ieuanc iawn i weithio gydag amaethwyr i ddechrau, ac yna i'r chwareli llechi. Go brin y cafodd ddiwrnod o ysgol erioed. Yr oedd ei frawd Richard dair blynedd yn hyn nag ef; nid oedd ond hwy eu dau o blant yn y teulu. Gorfu i Richard hefyd fyned i weithio yn ieuanc, a chwarelwr fu bron ar hyd ei oes. Bu'n flaenor amlwg yn eglwys Brynrodyn, Arfon, am dair blynedd a deugain, yn ddyn hunan-ddiwylliedig, ac yn un o gedyrn Seion. Pan oedd William yn bedair ar hugain mlwydd oed, priododd Margaret, merch Griffith a Margaret Jones, Fferm y Gaerwen, Rhostryfan. Aethant i fyw i dyddyn yn yr ardal o'r enw Pant Coch. Ymhen ychydig flynyddoedd ar ôl priodi, ymunodd William ag eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Rhostryfan, ac ni bu yno'n hir cyn cael ei ethol yn flaenor. Yn 1842 symud- asant i fyw o Rostryfan i Danygrisiau, gan roddi enw'r hen gartref ar y newydd, sef Pant Coch. Yn 1846 aethant o ardal Ffestiniog i fyw i'r America. Hwyliasant mewn llong fechan o Fangor oedd yn cario llwyth o lechi i Boston. Aeth y teulu ymlaen oddi yno i dalaith Wisconsin, gan sefydlu yn Blue Mounds, swydd Iowa. Ganwyd i William a Margaret Williams saith o blant, pedwar o feibion, a thair o ferched. Claddwyd un ferch pan oedd yn faban yn Llanwnda, a chladdwyd Margaret, y ferch hynaf, yn bedair ar hugain mlwydd oed yn Blue Mounds yr haf cyntaf wedi i'r teulu ddyfod o Gymru. Enw'r ferch arall oedd Ann: yr oedd hi yn ddeuddeng mlwydd oed pan adawodd yr Hen Wlad. Enwau'r meibion oedd William, Griffith, John a Richard William. Gwlad goediog oedd o gwmpas Blue Mounds pan gyrhaedd- odd y teulu hwn yno. Prynodd William Williams dir gan y llywodraeth, a galwodd ei fferm wrth yr enw Pant Coch. Yr oedd yn tynnu at ei hanner cant oed, a'i briod, hithau, yn llawn