Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD Y Traethodydd (I896-I957). Ar ól gorffen y mynegai i'r uchod (I845—I895) oddeutu blwydd- yn yn ôl, cymhellwyd fi'n daer i wneud mynegai i'r gweddill (1896 — 1957). Petrusais lawer wrth feddwl am ddarllen, chwilio a chwalu dros drigain cyfrol (llai eu maint, wrth gwrs, fel y cerddai'r blynyddoedd), codi a lleoli enwau a materion yn nhrefn yr wyddor. Ofnodd un aelod o'r teulu mai 'r un a fuasai tynged slips a chardiau'r cyfrolau hyn ag a fu yn hanes y lleill a wneuthum ar y cyfnod cyntaf-sef eu cludo'n barchus i'r atic, a'u gadael yno i hel baw a llwch. Beth bynnag, wedi'r storm fach a godwyd ar yr aelwyd chwythu ei phlwc, bodlonwyd imi wynebu'r antur fawr. Hel cardiau a holi am y cyfrolau, a ben- thyca rhai nad oedd gennyf, a bwrw iddi yn hamddenol braf o flaen tân mawr, a chwblheais y gwaith-yr hel, y dosbarthu, y teipio a'r rhwymo-yn y gwanwyn. Efallai fy mod yn un o'r ychydig sy'n fyw heddiw, a ddar- llenodd bob cyfrol a phob rhifyn o'r Traethodydd (I845—I957). Ond na ddarllener gormod i'r gair "darllenodd." Cofier bod rhagor rhwng darllen a darllen mewn amcan a phwrpas. Nid casglu gwybodaeth nac elwa chwaith ar gynnwys y Traethod- ydd yw amcan y mynegeiwr, eithr casglu, trefnu, a dosbarthu ar a ddarllenodd i hwyluso gwaith efrydwyr ac ymchwilwyr y dyfodol. Cofier hefyd mai temtasiwn fawr y mynegeiwr ydyw darllen ambell ysgrif ddiddorol neu erthygl werthfawr neu adol- ygiad gwych; ond Na Mae ei lygad ar y cloc a'i feddwl ar y pentwr cardiau o'i flaen a'r cyfrolau sydd ar silff ei stydi-ac felly ymlaen â fo i ben y daith. Gwelais newid mawr yn Y TRAETHODYDD mewn mwy nag un ystyr, heb sôn am y newid a ddengys ei gynnwys yn ystod trigain. mlynedd, rriewn byd ac eglwys, mewn bywyd a chym- deithas. Yn 1896 yr oedd Daniel Rowlands yn nesáu at ddiwedd ei orchwyl mawr a maith fel golygydd oddi ar 1862. Er bod ei ysgrifau'n faith, beichus a llafur-fawr, ef oedd Apostol Dirwest CYFROL CXIII. Rhif 488. Gorffennaf, 1958. H