Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Erfyniodd yr emynydd, Nid oes dehongli ar rymus eneiniad y Nef, na threiddio gwrthrychol i'r cyffro cychwynnol. Pan y myn y daw­¾ Pan y myn, heb orfodaeth na dyled i'r byd, Pan y myn, fel pethau y nefoedd i gyd." Ond pan ddaw mae amgylchiadau bywyd yn foddion i'w les- teirio neu i'w hybu ymlaen. Aeth hanner canrif heibio bellach er pan fu yng Nghymru sanctaidd dywalltiad, er bod gennym dystion iddo o hyd. Ond mae ail a thrydydd genhedlaeth yn awr yn fyr o'u breintiau hwy, a phriodol, efallai fuasai inni fwrw golwg ar gyfres o ddigwyddiadau arbennig a thrwm eu dylan- wad ar achos crefydd yma yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg— trwy iddynt hyrwyddo diwygiadau crefyddol a oedd eisoes ar gerdded yn ein gwlad. Mynegodd y Parchedig Hugh Hughes, Bryncir, yn ei lyfr Diwygiadau Crefyddol Cymru, yn groyw ddigon fod a wnelo trallodion y byd lawer â chynyrfiadau crefyddol ysgubol y gor- ffennol. Ganrif union yn ôl bu Cymru yn llawenhau yn Niwyg- iad 59, diwygiad grymus a byd-eang, ac un a ddechreuodd yn America ddwy flynedd ynghynt. Yn ôl Hugh Hughes "Diau mai cyfyngder mewn masnach yn America a fu yn foddion cychwyn y diwygiad Wrth gyfeirio at ddiwygiad cynharach yng Nghymru, sef un 1798-1802, dywedodd hefyd fod cyfyng- derau a phryderon rhyfeloedd Napoleon wedi dylanwadu'n gryf ar yr ymweliad hwnnw. Am ddiwygiad I8I7—22, "Diwygiad Beddgelert," dywedodd ymhellach, "Tlodi a chyfyngder mewn masnach oedd wrth wraidd y diwygiad mawr hwn. Y cyfyng- der ar ól y rhyfel â Ffrainc, pan yr aeth nifer mawr 0 ffermwyr Corlannydd Diadelloedd. Ysbryd byw y deffroadau, Disgyn yn dy nerth i lawr, Rhwyga'r awyr â'th daranau, Crea'r cyffroadau mawr,