Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Marwnad Tecwyn Yn null y cywyddwyr gynt. Och adwyth! nid iach ydwyf, Llwyr wan fel mewn hunlle 'r wyf; Wylo'n hidl trwy gydol nos, Gan ochain, gwn ei achos- Marw a wnaeth gŵr mawr neithiwr, (Llyna ddeigr fel llyn o ddwr!) Tecwyn, gwr gwyn a theg oedd, Evans, fe aeth i nefoedd; Yn dda'i enaid o Ddeunant, Dyw Sul i baradwys sant: Ei gorff a roed i orffwys Yn nhalar y ddaear ddwys. Minnau, dir yw fy hiraeth Amdano, 'r 'wy'n wylo'n waeth; Mynnwn, pe'n lles dymuno, Farw fy hun rhag ei farw fo. Tra uchel ytyw'r achwyn Am i Dduw oddi yma'i ddwyn: Athro gwir aeth i'r gweryd, Ewythr i bawb aeth o'r byd! Rhoeswn, pe angau'n rasol, Haul y nef i'w gael yn ôl. j Ail glaw yw'r wylo a glywwn, Mawr yw poen Cymru heb hwn: Wele'.i deulu a'i Dalaith Yn llwyd, pob wyneb yn llaith: Y wlad oll wyr ei golli, Hi'n wacach mwyach i mi. Och estron, anwych ystryw! Och i'n tai na byddai byw! Nid yw'r Rhyl yn "dre' heulwen Hebddo fo, ond y nef wen; 4