Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Etifeddion Harrisiaid Trefeca. Yng Nghylchgrawn Hanes y M.C., Medi 1925, cyhoeddodd M. H. Jones ysgrif ar ddisgynyddion y tri brawd o Drefeca. Fel y gwyr y darllenydd, un yn unig o blant Howel Harris a'i goroesodd-ei ferch Elizabeth, a ddaeth yn ail wraig i feddyg o Babydd yn Aber- honddu, Charles Prichard, ar 10 Mai 1782; bu hwnnw farw ar 10 Tachwedd 1804, a hithau ar 8 Chwefror 1826. Rhydd Theophilus Jones (Hist. of Brechnoch, cyf. III, t. 30, yn yr argraffiad a helaeth- wyd gan yr Arglwydd Glanusk cyntaf-at hwnnw, gyda llaw, y cyfeirir bob tro yn yr ysgrif bresennol) inni restr o bump o'u plant; da yw gweld bod Elizabeth wedi enwi un ohonynt ar enw ei thad hyglod, ac un arall ar enw ei hewythr Joseph. Ni wyr neb, gallwn feddwl, ddim oll o helynt y plant; ni fedyddiwyd mohonynt yn Nhalgarth nac yn yr un o eglwysi plwyfol Aberhonddu, ac fe dyst- iodd offeiriad capel Pabyddol Aberhonddu wrth M. H. Jones nad oes sôn am eu bedyddio yno, nac am ddim arall o'u hanes, yn rhestrau'r capel hwnnw-o ran hynny, ni wyddai ef am unrhyw brawf fod Elizabeth Harris wedi newid ei chrefydd pan newidiodd ei chyfenw. Ymdriniodd M. H. Jones yn helaeth ag ail fab Trefeca Fach, Thomas (1705-82). Brawd brith oedd Thomas: ar ôl "torri" yn Llundain (yr oedd yn wr "given to wine-drinking and squandering money," a bu'n rhaid iddo ffoi i Ffrainc am dymor), fe lwyddodd wedyn i wneud ei ffortiwn. Yna fe ymneilltuodd i'w henfro, a phrynu Tregunter a Threfeca Fawr; daeth yn siryf Brycheiniog yn 1768; bu farw yn 1782 a chafodd goflech glodforus iawn yn eglwys Talgarth, yn ymyl coflechau ei frodyr. Bu ganddo amryw blant gordderch-daeth un ohonynt yn wr i'r actores enwog "Perdita" Robinson, fel yr edrydd M. H. Jones yn ddiddorol iawn. Barnodd M. H. Jones (The Trevecka Letters, t. 49) nad oedd unrhyw dystiol- aeth i Thomas erioed briodi. Eithr yn y detholion gwerthfawr a gyhoeddodd y Parch. Gomer M. Roberts yn yr ail a'r drydedd gyfrol o'r cylchgrawn Brycheiniog, 0 lythyrau'r Harrisiaid at ei gilydd, fe sonnir fwy nag unwaith am wraig Thomas. Joseph yn adrodd i'w fam (Tachwedd 1750) "I saw Bro. Thomas and Sister-in-law," Tho- mas ei hun (Chwefror 1753) yn anfon cofion "my wife" at Howel. Howel ym Mawrth 1754 yn cofio at Thomas "and Sister." Pwy oedd hi, a pha bryd y bu farw, ni wyr neb hyd yn hyn. Ond sut