Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD UNDOD YR EGLWYS A'I CHENHADAETH Yr hyn sy'n gwahaniaethu Mudiad Ecwmenaidd heddiw oddi wrth fudiadau cyffelyb o'i flaen yw ei fod yn cychwyn trwy geisio ein harwain yn uniongyrchol at y profiad mawr hwnnw a roddodd fod i'r Eglwys Gristionogol ar y cyntaf. Perthyn y profiad hwn i bob gwir ran ohoni ym mhob oes ac ym mhob man. Hebddo nid yw'r pethau a achlysurodd ei rhaniadau yn ddigon ynddynt hwy eu hunain i'w gwneud yn eglwys wirioneddol, er pwysiced ydynt ac er pob cyfrif a wneir ohonynt. Mae ffeithiau gwreiddiol y traddodiad Cristionogol y deil yr Eglwys Fore drwy'r Testament i dystiolaethu iddynt yn feddiant i'r eglwysi oll fel ei gilydd. Ac ni ddylem ddi- brisio mewn unrhyw fodd ein perthynas â'r gorffennol amhrisiadwy hwn. Bu'r gymdeithas Gristionogol drwy'r oesoedd yn cyhoeddi'r "hen hen hanes am Iesu a'i werthfawr waed." Gwnaeth hynny mewn Ilawer dull a modd. Ei neges yw'r un a drysora'r Apostol yn ei Epistol Cyntaf at y Corinthiaid XV, 3-11. "Canys traddodais i chwi yn bennaf peth yr hyn a dderbyniais hefyd, sef farw o Grist dros ein pechodau ni, etc." C.P.C. Fe'i derbyniodd, fel y cesglir, oddi wrth yr eglwys yn Jerwsalem, ac fe'i traddododd fel cenadwri o'r gwerth mwyaf i bob dyn. 'R oedd y genadwri hon wedi gafael yn yr Apostol ei hun a'r lleill o'i gyd-dystion, a'u meddiannu'n llwyr. A'r canlyniad oedd fod y cwbl ag oeddynt ac a wnaent, yn ogystal a'r hyn a gyhoeddent, yn traddodi i eraill y genadwri fawr na allent yn wir ei chadw iddynt hwy eu hunain. Cenhadaeth fawr Cristionogaeth o oes i oes a fu cyhoeddi'r ffeithiau amhrisiadwy hyn am yr Arglwydd Iesu, nid fel ffeithiau moel ac allanol, ond yng ngrym ac yng ngwres y profiad personol ohonynt, nes bod yn gyfrwng i ddeffroi ymateb ffydd y rhai a'u clybu. Ac fe ddibynna undod a grym yr Eglwys Gristionogol ar y ffydd, y gobaith, a'r cariad sy'n gyffredin i bob adran ohoni. Hon yw'r ffydd sy'n anhepgor iddi, y ffydd a rodded (ymddiriedwyd) unwaith i'r saint. Judas ad 3. Nid ffydd mewn ystyr wrthrychol fel corff o CYFROL CXVII. RHIF 505. HYDREF, 1962