Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

deall drwy gymysgu rhagorfreintiau a chyfrifoldeb bod yn Fab Duw, a chael gan y Mab ddefnyddio'r rhagorfreintiau o fod yn Fab Duw heb ymgynghori â'r Tad. Eithr dyma ateb yr Iesu "Ysgrif- ennwyd Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn". Ni wnaeth gyfeiriad o gwbl at ei ddwyfoldeb, na?i allu gwyrthiol; methodd diafol gael ganddo leihau dim o gyfrifoldeb ei ddynoliaeth; er mewn gwendid, gorweddai ei nerth a'i obaith yn ei ymostyngiad llwyr i arweiniad yr Ysbryd, ac yn ei deyrngarwch i ewyllys Duw. Gorchfygodd yr Iesu ymgais diafol i'w rwydo ar dir ei wendid corfforol drwy gyhoeddi ei ymddiriedaeth ddidroi'n ôl yn Nuw. Bellach ceisiodd diafol ei ddal ar sail yr ymddiriedaeth yma a oedd ganddo yn Nuw, ceisiodd danseilio'r hyder hwn. Dewisodd Moses adfyd plant Duw i fod yn Israeliad, yn hytrach na digonedd yr Aifft fel mab merch Pharaoh. Amcan diafol oedd torri'r ffydd yma o eiddo'r Iesu, y ffydd a'i galluogodd i dderbyn fel ffaith ei fod yn fwy diogel mewn newyn dan ewyllys Duw, na phe byddai mewn digon- edd y tu allan i ewyllys Duw. "Yna y cymerth diafol ef i'r ddinas santaidd, ac a'i gosododd ef ar binacl uchel y Deml, ac efe a ddywedodd wrth, 'Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr, canys ysgrifennwyd, Efe a orchymyn i'r angylion amdanat, a hwy a'th ddygant yn eu dwylo rhag taro ohonot un amser dy droed wrth garreg' Mor gyfrwys yw dewis lleoliad yr ail ymgais, yn y Ddinas Santaidd, ar binacl y Deml, lle na allai'r Iesu beidio â gweld cyflwr ysbrydol ofnadwy crefydd. Fe wêl y byd gyflwr enbydus yr eglwys, ac fe ddengys hynny mewn modd nid anamlwg; ond nid oes unman i weld mor wir enbyd gyf- lwr yr eglwys mewn gwirionedd, ond o'i mewn! A phwy ot rheini heddiw sydd mewn poen ysbryd o ganfod y fath olygfa druenus na theimlodd ryw ddyhead dwys i allu cyflawni rhywbeth eithriadol i ddenu pobl yn ôl i'r wir eglwys ac i iawn berthynas â Duw! Safodd yr Iesu mewn man lle'r atgofiwyd o holl ymwneud Duw â'r genedI,-y ddinas santaidd, canolfan cyfamod Duw, a'r deml yn y canol yn arwydd o Dduw gyda'i bobl. A'r hyn a welai yr Iesu oddi yno, fel y gwelwn ninnau heddiw, annuwioldeb ac anghyfiawn- der, hunanoldeb a balchder, twyll a rhagrith, byw i hunan ac i beth- au, fel pe na byddai Duw mewn bod, fel pe na byddai bodolaeth ond ar y lefel anianol. "Bwrw dy hun i lawr! Ni fydd dim perygl i