Cylchgronau Cymru
Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau
O'r braidd y gellir disgwyl i unrhyw un ddweud rhywbeth newydd neu wreiddiol am Undeb Cristionogol. Bron nad yw pob agwedd i'r mater wedi ei drafod yn llwyr bellach. Cafodd yr amheuwyr eu cyflea phrin fod yr un ddadl yn aros nad yw wedi ei chodi a'i defnyddio hyd yr eithaf. Cafodd yr amddiffynwyr hefyd eu llwyfan, ac nid erys fawr ddim o werth nad yw wedi ei fynegi. Cawsom ninnau yng Nghymru ein siâr deg o'r trafodaethau yn ystod y misoedd diwethaf. Ar y naill law, cafwyd digon o gyfle i drafod agweddau diwin- yddol a hanesyddol y mater. Yn niwedd 1961 cyfarfu cynhadledd fawr Delhi Newydd, ac fe ddygwyd holl brif faterion y gynhadledd i'n sylw drwy'r wasg, y radio a'r teledu. Erbyn hyn cyhoeddwyd cyfrol drwchus a rydd adroddiad manwl am waith y Gynhadledd. Pan glowyd cynhadledd Delhi Newydd, yr oeddym o fewn ychydig ddyddiau i Galan 1962blwyddyn dathlu'r Troad Allan yn 1662. Rhoddwyd cyfle inni yn ystod y flwyddyn hon i fyned yn ôl i edrych ar ein gwahaniaethau-i weld gwir hanfodion ein Hymneilltuaeth, ac i ystyried pa bethau sy'n gwbl angenrheidiol a hanfodol i'n traddodiad. Aed yn ôl i ystyried y sylfeini, ac i weld pa bethau a berthyn i'n bod fel Eglwysi Ymneilltuol. Yn sicr ddigon, y mae hyn yn un o'r prif sylfeini i unrhyw drafodaeth ar Undeb Cristion- ogol. Ar y llaw arall, fe'n bwriwyd i ganol trafodaethau ar agweddau ymarferol y mater. Daeth cynnig Syr D. J. James i Eglwysi Ym- neilltuol Cymru-ac y mae'n ddiamau nad oes yr un aelod eglwysig erbyn hyn na ẃyr rywbeth am y drafodaeth. Yn fuan wedyn ymddangosodd Cynllun Undeb Eglwysig gan Bwyllgor y Pedwar Enwad-llyfryn sydd bellach yn teilyngu'r enw o 'best-seller'. Yr unig beth perthynasol i'w nodi yn awr yw fod y ddau symudiad yn gwbl annibynnol. Yr oedd Pwyllgor y Pedwar Enwad (Tri Enwad hyd yn ddiweddar) yn bod ymhell cyn cynnig Syr D. J. James, ac yn wir, yr oedd y cynlluniau ar dro i gyhoeddi'r Cynllun Uno cyn bod unrhyw sôn am y cynnig ariannol. f Anerchiad a draddodwyd yng Nghymdeithasfa'r De ym Mhorthcawl, Ebrill, 1963.