Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD YMNEILLTUAETH­EIN CYFRIFOLDEB HEDDIW* "Mae'r athronwyr," meddai Karl Marx, "wedi ymboeni a phen- droni llawer i geisio dehongli'r byd. Ein busnes ni yw, nid ei ddehongli, ond ei newid." Hwyrach y dywedai rhywun fod dechrau gyda Marx, wrth ddathlu Tri Chanmlwydd Troad Allan y Ddwy Fil, yn cychwyn mewn lle go hynod. Ond er anhebyced ydyw Comiwniaeth i Grist- ionogaeth yn eu natur a'u hamcanion gellir dywedyd fod unpeth yn debyg ynddynt, sef eu hawydd angerddol am newid a gwella'r byd. "Y dynion hyn," meddai Jason am Paul a Silas, "sydd yn troi'r byd a'i wyneb i waered a ddaethant yma" (Actau xvii, 6). Un o'r mudiadau mawr hanfodol yn hanes ymdaith yr Efengyl yn ddiamau yw Ymneilltuaeth, ag y dethlir un datblygiad pwysig yn ei dwf eleni, yn 1962. Credwn fod yr egwyddorion a ddargan- fuwyd ac a draethwyd gan ein Tadau yn meddu grym a gwerth ymhell y tuhwnt i'w mynegiant hanesyddol cynharaf. Credwn eu bod yn perthyn i gnewyllyn hanfodol y Ffydd, ac nid i r plisgyn sych oddifaes. Er dechreuad Cristionogaeth, ar bob cynnwrf ysbrydol, ac ar bob cyfnod o gynnydd a gwir ddeffroad, yr un egwyddorion a ddaw i weithgarwch. Ac ar adegau o ddirywiad a darfodedigaeth dychweliad a welir o hyd at safonau bydol, at ddefodau gwag, a thraha balch, ac at y status quo diffaith. Yr hyn a geisiaf ei wneuthur yn awr yw nodi rhai pwyntiau y dylem eu pwysleisio wrth wynebu diwedd y ganrif hon. Felly ni soniaf am y gorffennol. Cafwyd mwy nag un dadansoddiad clir a gwerthfawr o'r cefndir hanesyddol, megis yn llyfr y Parch. Trebor Lloyd Evans, Pris ein Rhyddid, a llyfr y Parch. Ifor Parry, Ymneill- tuaeth. Hwyrach fod angen am lyfr eto ar weddau mwy diwinyddol a chrefyddol Ymneilltuaeth, am natur gweinidogaeth a phregethu Sylwedd anerchiad yn Sasiwn y Deheudir, Trefdraeth, Medi 1962 CYFROL CXVIII. Rhif 506. Ionawr, 1963