Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DYLAN THOMAS Á'I FEÌRNIAÍÔ Adroddwyd hanesyn yn ddiweddar, mewn llyfr gan Ohebydd Americanaidd pur amiwg, iddo fynegi wrth Ddylan Thomas yn ystod un o ymweliadau'r bardd â'r Unol Daleithiau, ei edmygedd ohono. Atebodd Dylan ef fel hyn: "Yr ydych yn tybio, felly, mae'n debyg, eich bod yn gwybod y cwbl amdanaf!" Nid atebodd y gohebydd ef ar y pryd: tua'r hanner-nos ddilynol, meddai, y daeth iddo yr ateb y carasai fod wedi ei roddi — "Yn wir adwaenaf yn dda eisoes yr hyn sydd orau ynoch Waeth i minnau addef mai mewn 'sefyllfa' debyg y gwelaf fy hun wrth geisio llunio'r erthygl hon: gwn am lawer sydd dda, gwn hefyd am lawer sydd waeth, a dyna yn ddiau ran helaeth o'r dirgelwch! Bu farw Dylan Thomas Llun, Tachwedd 9, 1953, yn Efrog Newydd, yn 39 oed. Parodd ei farw trychinebus syfrdandod yn ei fro ei hun, ac mewn rhyw ystyr trwy fyd y Gorllewin. Aeth yn fuan hefyd yn ddirgelwch, yn chwedl, ac yn bwt-y-gynnen i feirn- iadaeth, yn seraff o fath i rywrai, ond yn syrffed a melltith onid gwaeth i eraill. Y mae ei hanes trychinebus ac ysblander tybiedig ei waith wedi bod yn ddyfaliad ac yn ddirgelwch caled i lawer, a thybed a yw deng mlynedd o amser wedi clirio'r awyr neu ddechrau sefydlu barn amdano? Rhaid yn wir yw treio dweud, neu ail- ddweud, rhai o'r pethau y dylid eu dweud ar hyn, a threio bod yn gynnil yr un pryd. Bu Dylan Thomas yn fwy ffodus na llawer mewn amser byr, oblegid cyhoeddwyd yn ddestlus iawn fwyafrif ei weithiau, a'i gerddi yn arbennig (rhyw 89 ohonynt o leiaf) yn y 'Collected Poems' (1952) — argraffiad sy'n un hynod gadarn a chlir. Ni cheir dyddiad manwl y cerddi yn y gyfrol hon, ond cynnwys bump olynol o'i gyfrolau unigol blaenorol a rhyw bump o'i gerddi olaf. Anffawd braidd yw'r ffaith na wyr y cyffredin ohonom ddyddiadau neilltuol y cerddi hyn. Y mae 'Bibliography' J. A. Rolph yn llawer o gymorth, ond y tebyg yw na chywirir y diffyg ond trwy gael 'Cofiant' manwl, y mae yn hen bryd i ni ei gael.