Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Bregeth ar y Mynydd gan W. D. Davies, gwelent gymaint yw methiant yr athronwyr i wthio diwinyddiaeth i ffrâm o athroniaeth. Fel gwyddor, llaw- forwyn yw diwinyddiaeth i Efengyl, ac, er y gwn fod angen diffinio'n bur fanwl, yr wyf am ddweud ymhellach mai mynegiant o'r Efengyl honno yw'r Ysgrythurau. Am hynny, un o seiliau hanfodol diwinyddiaeth yw deall a defnyddio'r Ysgrythurau yn iawn, a dyma'r math ar ymchwil sydd y tu ôl i'r llyfrau y soniaf amdanynt. 'R wy'n cydnabod bod y rhain yn gadael argraff fod ysgolheictod Beiblaidd yn ddi-daro ynghylch problemau 'gwacter ystyr' a 'Duw yn bod am nad yw yno'; ac efallai bod perygl iddo ymddangos fel pe bai'n hamddenol-ddigyffro. Ond, ar yr un pryd, rhaid cydnabod mai'r rheswm dros y cyffro diweddar yw ein bod yn medi diffyg disgyblaeth Feibl- aidd gymwys yn yr oes o'r blaen, ac nad oes fawr ddim gennym wrth gefn i drafod y ffrwydro ffwdanus gan yr athronwyr. Gwnaf un cyfaddefiad. Pe byddai chwarter y brwdfrydedd-a'r pryder++sy’n corddi'r athronwyr yn ysbrydoli ein harbenigwyr Beiblaidd (gan fy nghynnwys innau, ysywaeth), odid na chaem eto yng Nghymru genhedlaeth o grefyddwyr yn ymofyn â'r Gair er achubiaeth eneidiau. BLEDDYN J. ROBERTS Bangor "Sôn am Achuh", gan B. J. Roberts. Ysgrifau ar Ddiwinyddiaeth yr Hen Destament. 1965. tt. 94. (Darlithiau Pantyfedwen. Gwasg y Brif- ysgol, Caerdydd. Pris 10/6.) Gallaf feddwl am ambell un yn cydio yn y llyfr hwn a darllen y teitl, ac yna yn ei daflu o'r neilltu, gan feddwl mai un o'r llyfrau sych hynny ydyw yn sôn am achubiaeth dyn. Ond camgymeriad mawr fyddai hyn; canys y mae'r llyfr hwn ymhell o fod yn sych ac anniddorol. Rhydd yr Athro Roberts arweiniad clir a diogel i'r darllenwr i ddeall y pwyslais newydd a ddaeth i astudiaeth o'r Hen Destament. Taflodd beirniadaeth feiblaidd gryn oleuni ar gynnwys yr Hen Destament. Un o'r canlyniadau fu ein cynorthwyo i werthfawrogi ei lenyddiaeth. Hefyd rhoes arweiniad i ddeall y modd y gosodwyd y llyfrau gyda'i gilydd. Eglur- wyd ei gefndir yn ei berthynas â'r cenhedloedd o gwmpas Israel, a daeth archaeoleg i oleuo'r hanes a geir ynddo. Ond er cystal y wybodaeth a gafwyd, y mae'n rhaid cydnabod ei nodwedd arbennig, sef ei fod yn llyfr crefyddol. Gwir ei fod yn sôn am hanes cenedl Israel, ac yn rhoddi darlun o gymeriad Duw. Ond nid y pwrpas pennaf yw cyflwyno hanes politicaidd Israel, nac ychwaith restru priodoleddau Duw. Yr hyn a wna'r Hen Destament yw cyflwyno gweithredu Duw, a Duw yn gweithredu i achub. Felly Hanes Achub yw'r Hen Destament. A chydnabod hyn a ddaeth a phwyslais newydd i astudiaethau beiblaidd, ac a gyfrif am y diddordeb newydd yn ei ddiwinyddiaeth.