Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y mae'n debyg mai yn y ddwy bennod, 'Y Cenhadu yn Achub' a 'Y Gair yn Achub', y cawn y cyfraniad mwyaf gwreiddiol o eiddo'r awdur. Y mae'n trafod meysydd y caiff ei gydnabod yn awdurdod arnynt. Atgoffir ni fod elfen genhadol yn yr Iddewon hynny a oedd ar wasgar (yn wahanol i Iddew- iaeth uniongred a welir mewn Phariseaeth). Yr awydd i genhadu a symbylodd drosi'r Hen Destament i'r Groeg. Nid disgyblaeth academaidd oedd y gwaith hwn, ond awydd i gyhoeddi Teyrnas Dduw i'r byd y tu allan i Iddewiaeth. Rhoddir enghreifftiau o'r cyfieithiad Groeg i brofi hyn. Y mae'r cenhadu i'w gael hefyd yn llyfrau'r Apocryffa, ac yng ngwaith yr athronydd Philo. Hanes sefydlu'r canon Iddewig a'r traddodiad Masoretig yw cefndir y bennod 'Y Gair yn Achub'. Profir 'bod yr Ysgrythur yn gyfan yn effeithiol mewn Iddew- iaeth o ddyddiau Esra ymlaen'. A chysylltiad cadarn Iddewiaeth â'r Ysgrythur a ddiogelodd y grefydd rhag dirywio yn wyneb erledigaeth a rhaniadau. Braslun anghyflawn ac arwynebol iawn o gynnwys y llyfr a roddwyd gennym. Gobeithio y gwrandewir ar ddymuniad yr awdur, ac y defnyddir ef mewn cylchoedd myfyr yn yr eglwysi. Bydd pob gweinidog ar ei fantais o astudio yn fanwl, a dilyn y cyfarwyddiadau i ddarllen yn helaethach am y pwyslais diwinyddol hwn. Y mae mwy i bregethu na phwysleisio perthynas dynion â'i gilydd a thynnu sylw at 'weithred o foesoldeb buchedd'. Pregethu beiblaidd a diwinyddiaeth feiblaidd yw 'mynegi gweithgareddau Duw'. Bydd y llyfr hwn, mi obeithiwn, nid yn unig yn tynnu sylw at y pwyslais newydd mewn astudiaeth feiblaidd, ond yn symbylu pregethu actau Duw, pregethu a fydd yn bregethu proffwydol, yn cymhwyso y Sôn am Achub at anghenion ein cyfnod ni. Diolchwn i Wasg y Brifysgol am gyfrol a argraffwyd mor ddestlus. Yn anffodus, llithrodd mân wallau i mewn, ond ni thrafferthant y darllenydd. Bydd yn sicr o sylwi arnynt, ac nid oes angen i mi eu nodi yma. Mawr yw ein diolch i'r Athro Roberts am ddehongli gwaith ysgolheigion eraill, ac am ei gyfarwyddyd sut i ddeall yn well y pwyslais diwinyddol yn yr Hen Desta- ment. ELWYN R. ROWLANDS Coleg y Brifysgol, Caerdydd "Teach Yourself Philosophy of Religion". H. D. Lewis. E.U.P., 10/6 Cyfeiria E. L. Mascall yn ei lyfr "Up and Down in Adria" at wraig a ddywedodd wrtho fod gan ei gwr y ddawn o wneud unrhyw beth a ysgrifennai yn sych. Os gwir hynny, 'd oes gennym ond gobeithio na chaiff y brawd hwnnw ei demtio i droi ei law at athroniaeth crefydd. Oherwydd hyd yn oed os yw hi'n wir nad oes y fath beth â phwnc anniddorol, dim ond pobl heb ddiddordeb, hawdd iawn fyddai lladd diddordeb yn y maes pwysig hwn trwy ei drafod yn ddi-ddychymyg, yn enwedig mewn cyfres fel y gyfres "Teach Yourself', sy'n ceisio cyrraedd y nífer mawr o bobl sy'n dymuno gwybod rhywbeth amdano heb orfod cyflwyno eu meddyliau i'w ddisgyhlaeth,