Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

JOHN WILLIAMS AB ITHEL (Rhan 2) Uchafbwynt gweithgarwch Ab Ithel yn ystod y flwyddyn 1858 oedd trefnu Eisteddfod a gynhaliwyd yn Llangollen ym mis Medi; yn wir gellir dweud mai trefnu'r Eisteddfod hon oedd ei brif gyfraniad i fywyd Cymru. Yr oedd nifer mawr o Eisteddfodau wedi eu cynnal cyn 1858. Cynhaliwyd Eisteddfodau dan nawdd Cymdeithas y Gwyneddigion tua diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ffurfiwyd Cymdeithasau Taleithiol yng Nghymru-eymdeithasau Dyfed, Gwynedd a Phowys yn 1819, a chymdeithas Gwent yn 1821, a'r cynllun oedd, fel y dywed Mrs. Helen Ramage,Cymdeithas Daleithiol ac Eisteddfod ymhob talaith yn ei thro".1 Cynhaliwyd nifer o Eisteddfodau dan nawdd y Cymdeithasau Taleithiol. Par- haodd yr Eisteddfodau hyn hyd tua'r flwyddyn 1834. Wedyn cafwyd cyfnod o anhrefn, cyfnod o "Eisteddfodau di- gynllun ac afreolaidd eu hamser".2 Trefnid yr Eisteddfodau hyn gan Gymdeithasau Cymraeg a ffurfiwyd mewn nifer o drefi yng Nghymru. Y bwysicaf o'r rhain oedd Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni a fu'n weithgar o 1833 hyd 1854. Cynhaliodd y Gym- deithas hon ddeg Eisteddfod (neu Gylchwyl) yn y Fenni.3 a chyn- haliodd y Cymdeithasau Cymreigyddol eraill eisteddfodau ar hyd a lled y wlad. Yn ychwanegol at hyn cynhelid nifer mawr o Gymdeithasau Llenyddol a Chyfarfodydd Cystadleuol. Dyna sefyllfa pethau yng Nghymru pan gynhaliwyd Eisteddfod Fawr Llangollen yn 1858. Ond cyn sôn am yr Eisteddfod honno dylid dweud rhywbeth am Orsedd y Beirdd. Yr oedd Iolo Morganwg wedi breuddwydio ac wedi llunio'i gyfundrefn dderwyddol, a chyhoeddwyd y manylion am y gyfundrefn dderwyddol honno ac am yr Orsedd a'i seremoni'au gan William Owen [Pughe] yn y rhagymadrodd i'w lyfr The Heroic Elegies of Lìywarch Hen. 1. Yr Haul, 1951, 343. 2. The Transactions of the Honourabìe Society of Cymmrodorion, 1933-5, 141. 3. Mair Gregory, Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni a'i chynìiyrchion pwysicaf, gyda sylw manylach i waith Thomas Stephens. (Traethawd M.A., Caerdydd, 1949), 485. H