Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

a rule, without independent confirmation. That is what remembering feels like (t. 90). Y drafferth yw mai fel yna yn union y mae'r peth yn teimlo pan fyddwn o dan gamargraff ein bod yn cofio a ninnau wedi ein twyllo gan ein dychymyg ein hunain. Y mae'r awdur yn hollol fyw i'r broblem, ond prin y gellir bodloni ar ei ateb — there is some way in which memory, without being infallible, guarantees itself (t. 91). Gellid codi problem arall ynglŷn â chofio. A chaniatáu fod yr hyn a dybiaf fy mod yn ei gofio amdanaf fy hun wedi digwydd i mi yn union fel yr wyf yn ei ddarlunio, a ydyw yn dilyn fy mod yn cofìo'r peth? Fe ddadleuodd C. B. Martin a Max Deutscher yn eu herthygl bwysig Remembering (Philosophical Reciew, 1966) na fyddai yn dilyn, a bod yn rhaid cyflawni un amod arall i sicrhau fod yma wir enghraifft o gofio. Yr amod pellach ydyw fod yna gysylltiad achosol rhwng y digwyddiad neu'r amgylchiadau a gofiaf a'r act o gofio. Os yw eu dadl hwy yn safadwy dyna broblem ar ffordd y dybiaeth y gallai'r cof fod yn llinyn cysylltiol sydd yn sicrhau parhad yr hunan cyn, ac ar ôl, marw. Yn frysiog iawn y cyfeiriaf at benodau olaf y gyfrol, er eu bod yn llwythog o bynciau diddorol a phwysig. Gofynnir a ellid cael bywyd ar ôl marw heb gorff o gwhl, dim ond goddrych meddyliau yn unig; trafodir y cwestiwn o ymgolli yn hunaniaeth y Duwdod, a dadleuir fod gobaith y Cristion wedi ei glymu wrth y gred fod yna fywyd iddo ef fel unigolyn; a rhoir ystyriaeth i'r cwestiwn o hrofi fod yna fywyd ar ôl marw. Ceir ym- driniaeth ddeheuig ac amlochrog o'r problemau hyn ynghyd â'r cwestiynau sydd yn codi ohonynt, ond un o'r pethau mwyaf diddorol yn y gyfrol yw'r drafodaeth yn yr wythfed bennod o awgrym a wnaed gan yr Athro H. H. Price, meddyliwr craff a roes lawer o'i sylw yn ddiweddar i gwestiynau perthnasol i fywyd ar ôl marw. Yr awgrym yw fod eich cael eich hunan mewn bywyd arall ar ôl marw yr un mor bosibl a'ch cael eich hunan mewn breuddwyd ar ôl syrthio i gysgu. Nid oes ofod i drafod holl oblyg- iadau'r awgrym, a chymeradwyaf y bennod i'm darllenwyr i'w hastudio drostynt eu hunain. Unwaith eto, y brif broblem sydd yn codi ydyw problem sicrhau hunaniaeth yr un sydd wedi atgyfodi. Sut y gellir sicrhau mai hwn a hwn a oedd yn byw yma ar y ddaear yn y Не a'r lIe ydyw? Rhaid dibynnu ar y cof, ond y mae'r awdur yn mynd ar ôl yr amrywiol bosibiliadau sydd yn codi yn y dychymyg wrth feddwl am hyn. Beth pe bai dau ohonom yr ochr draw yn cofio cystal â'i gilydd bethau a berthynai yn gyfan gwbl i fywyd un dyn yma ar y ddaear? Os y cof yw'r maen prawf, oni fyddai hyn yn golygu fod y ddau i'w huniaethu â'r un a fu gynt ar y ddaear? Ateb yr awdur yw y byddai un ohonynt yn unig yn gwir gofio'r amgylchiadau, ac mai ffug-gofio yn unig a fyddai'r llall; byddai'r gwir gofiwr ei hunan yn gwybod i'r dim pwy ydoedd. Cofiaf innau am y ddadl frwd a difyr a gawsom gyda'r awdur ar y pwnc hwn pan ydoedd yma yn Aber- ystwyth yn ddiweddar. Nid oes raid dweud mwy i awgrymu fod y gyfrol hon yn llwytnog o bynciau dyrys a diddorol. Fe amddiffynnir safbwynt pendant yr awdur yn erbyn llif o feirniadaeth gyfoes. Ac y mae'r cyfan wedi ei gyflwyno