Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

LLYFRAU Beth sydd imi mwy a wnelwyf I M.E. Saif y llyfrau yn rhesi trwm ar fy silffoedd; tystiolaeth oes o gynaeafu; o grafu ceiniogau prin yn nyddiau llencyndod llwm; bod heb y peth hwn, a heb y peth arall, weithiau llwgu, nes bod estyn yr arian mân dros y cownter a derbyn y llyfr bratiog ei gloriau i'm dwylo yn rhyw fath ar sagrafen; cyfrwng gras. 'Does ryfedd eu bod ar eu silffoedd, yn eu cloriau treuliedig, glas a choch, brown a du a gwyrdd yn cau amdanaf megis gwarchodlu trefnus, neu'n hytrach, resi fyrdd o eilunod y credais na allwn fyth fyw hebddynt. Rhyw ddydd, fe'm cefais fy hun yn anwylo set o lyfrau, ac yna'u hestyn i gyfaill i w hedmy.gu. Clywais fy hun yn dweud: Cymerwch nhw, gyfaill," ac wrth ddweud, clywais y gyllell yn torri drwy'r cnawd, yn gwahanu'r aelod gwael o'r corff. O Law-feddyg grasol, sawl eilun sy eto'n aros dy gyllell lem, dosturiol? ANEIRIN TALFAN Dayies.