Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TAIR CERDD WERDD 1 YN NHY CWEDDI GALLERUS, y DINGLE Am iddo weld miraglau hen y môr goleuni yma'n tonni dros y tir rhwymodd ef gwrwgl ei gariad wrth angor o garreg a throi y llethr hwn yn nyddiau du yn un 0 borthladdoedd Duw. 1 Er mai trai yw hi mwy tyr hon o'i byrddio'n ddistaw bach fin hwyr o haf yn rhydd -daw llaw ar ei llyw a llithra yn ei blaen eilwaith i lawr y llethr i wynebu heulwen heli a drycin y dẃr cyn dod i dir lle nad oes angen wrth angor i'w rhwymo yn harbwr y galon.