Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

E.LL.M. (1917-1970) Tad íu im, astud o'i fodd, edrych oedd ei ymadrodd, edrych ing, edrych angerdd, cynnull gwir cannwyll ei gerdd: duedd y gwir, nid oedd a'i gwâd о lwydwyrdd ei welediad. Ym mhob hin, diflin difloedd, fy Llyfr Ancr, fy lleuwefr, oedd. fy nawn hynaf yn annog, fynganiad, fy llygad llog yn dioddef, diweddu cariad ei weld mewn cancr du- ond trwy ddistawrwydd ei stad bu'i arafwch yn brofiad: yr oedd fel gardd ofalus na fwria'i haf gwyw ar frys. Deall oedd, ac nid yw llwch yn deilwng o'i dawelwoh. D. Llwyd MORGAN