Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

WEDI DARLLEN GWEDDI'R TERFYN —GAN S.L.— yn NHRAETHODYDD Hydref, 1973 Pwiy drŷ yn wir i Rufain, neu i Bersia bell, i geisio'r ffigwr (lle mae porffor byd yn aur i gyd): neu eto glyw yr Oracl Fawr ar Gymru sydd heddiw yn pennu'n glwt ein tynged blin? Mor drist yw hyn yn wir-y bywyd llawn, a'r llafur maith— eto nad oes, o enau'r Soffydd clên, grymusaf, hwn ond llwyr-ddiddymdra, a mudandod bod a byw. mor drist yn wir mor drist a neb i godi llef, na theimlo'r loes A ble'r â ef-a ninnau (lwch y llawr)— i geisio rhywbeth mwy na ffigwr' (porffor, neu aur i gyd) neu ffrâm у Gredo Fawr ysblennydd gref heb eto gael yn ben y rhawd ond gwag Anobaith briw? Mor ddiflas yw—yma yn rhynnu'n gorn, rhwng Gwyll a Gro yma yn ddreng wrth draed Byd heb, bellach, ddim-ond gwacter Bod U tab yr Awen Bur— y barnwr teg, y proffwyd clir— ble'r aeth yr hud, y lliw a'r llewych claer, a'r holl lawenydd mwvn?