Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

WARSAW (Medi 1976) I Meic Stephens a'm hanfonodd yno I W. R. P. George a ddaeth gyda mi 1. Y CROESO Ger y gwair, yr un gwyrdd â gwair Brynaman, a dan haul, yr un melyn â haul Cricieth, fe'n croesawyd gan Bartelski. Bardd, llenor, arwr cenedlaethol, a adawodd ei droed ar ôl ar lannau'r Fistiwla yng nghwrthryfel pedwar deg pedwar. Roedd ei wên mor llydan â'i wladgarwch, a'i eiriau, yn ei Saesneg echrydus, yn saethu trwy waliau'r dieithrwch at darged ein deall. Rhoddodd arian i ni, digon i brynu ffrwythau a fodca, gan fod y cig yn brin. Gofynnodd Sut mae hi arnoch chi yng Nghymru?" Holodd â'i lygaid, Ai Lloegr yw eich Rwsia chwi ?' Gwelsom ef wedyn mewn derbyniad swyddogol, a'i wyneb fel ffurflen. Wedi ein gweld, gwenodd, dywedodd, Dewch, Feirdd Valia, yfwch, rydych chi'n debyg i ni.' Ger y gwair, a dan haul, yno y cofiaf Bartelski.