Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Dameg y Goruchwyliwr Anonest Arbrawf mewn Esboniadaeth I. Y MAE ambell ddameg nad oes iddi eglurhad diamwys oblegid diffyg gwybodaeth sicr am ei chefndir a'i chyd-destun. Yn bur aml y mae'n rhaid dyfalu ei phwrpas, a phrawf o'r ansicrwydd hwn yw amrywiaeth yr esbon- iadau a gynigir. Enghraifft o'r amwysedd hwn ac o'r gwahaniaeth rhwng y man cychwyn a'r pwynt' terfynol yw dameg Lasarus a'r Dyn Goludog. Ai dameg am gywiro anghyfiawnderau'r byd hwn yn y byd tragwyddol yw hon, ynteu beirniadaeth lem ar genhedlaeth na wrendy nac ar Moses na'r proffwydi? Ai defnyddio neu addasu chwedl Rabbinaidd hysbys oedd ar led am wr crefyddgar Ascalon neu'r chwedl Eifftaidd am daith Setme i Annwn (felly Jeremias a Grossmann) er mwyn hoelio sylw ei gynulleidfa a wnâi'r Iesu, ac yna yn arwain ei wrandawyr at ddiwedd pigog' y byddai'n rhaid iddynt wrando arno? Nid gorchwyl syml, fodd bynnag, yw dehongli llawer dameg. Hwyrach mai'r enghraifft fwyaf trawiadol o'r anhawster hwn, ac o'r amryfal bosibiliadau esboniadol, yw dameg Y Goruchwyliwr Anonest (Luc 16), a honno'n ddiddorol oherwydd yr esboniadau' atodedig sy'n edrych fel ymestyniad ohoni. Yn ôl adn. 10 ymddengys fod un pwynt' yn debyg i eiddo dameg y Talentau: y mae dyn sy'n gywir yn y pethau lleiaf yn gywir yn y pethau mawr hefyd, ac nad yw'r dyn sy'n anffyddlon yn y pethau lleiaf yn haeddu cael ymddiried ynddo â phethau mawr. Ond brau yw cysylltiad y geiriau hyn â'r stori ei hun. Gellir cymharu'r ddameg hon â dameg o'r Mechilta a briodolir i'r Rabbi Simon ben Eleasar: Mashal. Fe debygir yr achos i frenin a benododd ddau oruchwyliwr, y naill i ofalu am gyflenwad gwellt, a'r llall am yr arian a'r aur. Fe ddrwgdybiwyd y cyntaf o gamwedd, ac fe rwgnachodd am na benodwvd ef i ofalu am arian ac aur. Yna dywedodd hwnnw a ofalai am yr arian a'r aur: 'Wfft i ti! Os methaist â gofalu am y gwellt. mwyaf yn y bvd y byddai dy fethiant pe penodid di i ofalu am arian ac aur. Pwynt: Oni fedrai plant Noa gadw saith gorchymyn. sut y gallasent gadw 613?1 Er nad oes gan y stori lawer yn gyffredin â'r ddameg, y mae'r foeswers yn debyg, ac yn y ddwy fe gyhuddir goruchwyliwr o gyflawni camwedd, neu esgeulustra. O'i chymharu â dameg Luc y mae'r mashal yn syml ac fe ddichon y gellid ei defnyddio fel enghraifft o'r thema a oblygir gan y cwestiwn yn adn. 11-12. Ond amheuaf a ddylid ystyried yr adnodau hyn yn esboniad boddhaol ar y ddameg. Yn wir, mor amrywiol yw'r deongliadau fel na fedrir derbyn un esboniad unigol yn foddhaol. Edrychwn gan hynny ar rai o'r esboniadau hyn yn eu tro gan ymchwilio i ba raddau v llwyddant i ddehongh'r ddameg.