Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

D. J. Evans, M. P. Morgan, Blaenannerch. (Argrafi'ty'r M.C., Caernarton). òoc. Ar silffoedd llyfrau hen gartrefi Cymru yr oedd lle amlwg i gyfrolau u gofiannau. Cofiannau pregethwyr oeddynt gan amlaf, a'r rheini'n llyfrau trwchus a swmpus. Heb- law hanes y gwrthrych yr ysgrifennid amdano, ceid ynddynt hefyd ddisgrifiad o fywyd cymdeithasol ei gyfnod. Cofiant Owen Thomas i John Jones, Talsarn, yw'r un sy'n brigo i'r meddwl. Digwyddodd newid mawr yn y cyiamser; daeth trai ar ddiddordeb pobl mewn pregethwyr," ac ychydig yw nifer y rheini y mae unrhyw goffa amdanynt mewn llyfr. Teneuodd hyd yn ced yr ychydig gofiannau hynny o ran eu maint. Yn hanes y pregeth- wr, beth bynnag, dydd y byr-gofiannau yw hwn-ond gorchwyl pleserus yw eu darllen, serch hynny. Mwynhad pur yw'r llyfryn hwn a ymddangosodd ar ben canmlwydd geni'r diweddar Barchedig M. P. Morgan, Blaenannerch. Mawr ddiolch i'r Parchedig D. J. Evans, Penmorfa a Llangrannog, am ei gymwynas yn sicrhau nad ar frys yr anghofiwn bregeth- wr a fu'n gymaint ffefryn ym mhulpudau'n gwlad. Efallai fod ynom duedd i oreuro'r gorffennol, ond dywedwn a fynnom, y mae'n rhaid arnom gydnabod i gyfnod y preg- ethu mawr ddibennu gyda marwolaeth gweinidogion fel M. P. Morgan. Nid hwn yw'r lle i holi am achos y dirywiad, ond y mae'r gwahaniaeth mawr yn hinsawdd ysbryd- ol cartrefi ac eglwysi Cymru yn siwr o fod yn gyfrifol i raddau helaeth am brinder ymgeiswyr am y Weinidogaeth, yn ogystal ag am dor-calon llawer sydd wedi cefnu ar y gwaith. Fe anwyd M. P. Morgan yn freiniol. Meddai ef ei hunan: Cefais ddechre da; aelwyd grefyddol a pharch at bethau crefyddol arni. Cefais fy nghario'n gynnar i'r capel. fy nghario, mae'n debyg, cyn i mi ddysgu cerdded. 'Roedd yna gysylltiad clos rhwng y cartre a'r Cysegr." (t. 10). Clywodd o bryd 1w gilydd gewri'r pulpud pan oedd ef yn llanc ym Mhontycymer, Morgannwg. Ac yntau^n weinidog ifanc fe'i cafodd ei hunan yn gymydog i dywysogion y pulpud, fel Evan Phillips, Castell Newydd Emlyn, a John Jenkins, y Cei Newydd. Yna'n fuan iawn wedi iddo ymsefydlu ym Mlaenannerch dechreuodd cynyrfiadau diwygiad 1904. Hyn i gyd, gredaf i, gyda'i ddoniau cynhenid a'i fyfyrio cyson a threiddgar, sy'n esbonio M. P. Morgan inni. Llyfr 88 tudalen yw hwn, wedi ei gynhyrchu'n lân gan Argraffty'r M.C., Caernarfon. At y tair ysgrif o dan y penawdau, (i) Dechrau'r Daith; (ii) Blaenannerch; (iii) Y Gennad a'i Genadwri, y mae dwy deyrnged haeddiannol gan ddau o'i gymdogion yn y Wein- idogaeth. Arlwyir inni ddetholion o'i ddywediadau bachog, a'i bregeth a gyhoeddwyd yn Y Drysorfa, Medi, 1943: Crist a'r Drysau Caeedig." Ychwanegwyd hefyd ei ddarlith ar bregethu-" Darlith Goffa'r Dr. John Williams, Brynsiencyn "-a ymddangosodd o'r blaen mewn llyfryn a gyhoeddwyd gan ein Cyfundeb. Mae llawer tamaid blasus a gwreiddiol yn y llyfryn; dyma un i aros pryd! Thomas John, Cilgerran, ar weddi un bore Sul ym Mlaenannerch, adeg y Diwygiad: Diolch iti, Arglwydd, fod tân ym Mlaenannerch yma. Y mae mwg yn Llechryd. Ond 'does yng Nghilgerran na thân na mwg." (t. 20). Rhaid ymgroesi rhag dyfynnu ychwaneg o gynnwys y llyfr; y mae gwir bleser yn ei dudalennau, ac ychwanegir at ei werth gan ei dri llun. Diddorol yw'r sylw (tt. 41-44) am ddau gyfnod pendant a gwahanol yn hanes M. P. Morgan, a dyfarniad un gwrandawr ei bod yn haws cofio'i bregethau cynnar. Pregethwr yr ail gyfnod a gofiwn ni-y cyfansoddi clos a'r brawddegu crefftus. Cofiaf i'r diwedd- ar Ddr. John Owen, Morfa Nefyn, sôn wrthyf am ddau gyfnod yn ei bregethu yntau, ond eu bod o ran eu trefn yn groes i'r hyn a ddigwyddodd yn hanes M. P. Morgan. Cyfansoddi'n glos a chywrain ydoedd dull cynnar John Owen, ond fe'i gorfodwyd cf i ystwytho tipyn ar ei ddull o bregethu wedi i ferch ifanc yn ei gynulleidfa ddweud wrtho: "Gennych chwi, Mr. Owen, y mae'r pregethau gorau a glywais, ond eich pregethau chwi yw'r rhai mwyaf anodd i'w cofio." Yn y pen draw, wrth gwrs, y mae pob dyn yn darganfod ei ddull ei hun, a'r hyn sy'n bwysig yw fod y bregeth :· ddelw'r hwn a'i gwnaeth."