Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Trindod o dduwiesau cad dychrynllyd y Gwyddyl. Bangor. GWYN THOMAS. AR LAN Y MOR YN ERIN Ar lan y môr yn Erin. Gwyrdd, iraidd, tywod melyn, A'r dŵr yn las ac ysu gwyn Ar lan y môr yn Erin. Ar odre'r traeth a'r tywod melyn, Ar odre'r traeth roedd bryn, Roedd yno fryn yn Erin, Ar lan y môr yn Erin. Ac ar y bryn ar lan y dwr Uwchben y tywod melyn Y daeth tair bodolaeth ddu Yn hwyr y pnawn yn Erin. Du ar fryn, y drindod ddu Uwchben y môr yn Erin Yn syllu'ri llonydd, syllu. Y drindod ddu, tair brân Uwchben y traeth yn syllu, Yno yr oeddynt: Morríghan.* Morríghan ac angau, Wylofain, drychiolaethau: Rwy'n gweld sgarlad, rwy'n gweld coch, Rwy'n gweld gwaed ac ofnau Ar lan y môr yn Erin. Dros orwel y môr yn Erin Bu machlud gwaedlyd, du, A'i goch yn clwyfo'r tonnau, A'i friwiau yn yr ewyn.