Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

RICHARD WILSON (1713-82): Ganwyd ef ym Mhenegoes ger Machynlleth Ue roedd ei dad yn rheithor. Claddwyd ef ym mynwent y plwyf yn yr Wyddgrug. Mae eleni yn ddau canmlwyddiant ei farwolaeth. Gwynfodd fydd ei gynfas lle piau henfraw Gastell Penfro, naws ei law'n glasliwio ciliau gorallt Cilgerran. gwawl enaid y goleuni'n iasáu bryn Dinas Brân­ rhoi gwlad dan asur glas yn rhaeadrau dros Gadair Idris. O NYTH I NYTH (Teyrnged i'r Prifathro Pennar Davies ar ei ymddeoliad) O nyth i nyth, o newydd yn Abertawe,- adeilad yn brofiadau dawn a dysg y draul a'r drefn: Colomen enciliau, o erchwyn i orchwyl, a ddwg o wyrdd feysydd a gerddi frigyn a gweiryn a'u gweu yn oriau twf i lochesu'r tŷ: Eryr yr uchelderau yn disgwyl lledu ei esgyll yn awyr ei head i wisgo nerth â seigiau yn nydd dihuno adenydd a'u hewin ar ei hiniog: Yna'r epil o'r enciliad yn codi nyth ar nyth yn rhugl lais ar dreigl hynt. Euros Bowen. ac yna nythu aml wedi'r nawdd F.urns fínwen.