Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Dafydd ap Gwilym ac Ifor Hael Y MAE dros ugain mlynedd bellach er pan geisiais drafod y broblem ynglŷn â chyswllt Dafydd ap Gwilym â Morgannwg yn Llên Cymru, v, 164-73. Awgrymais y pryd hynny ei bod yn bosibl mai wedi i'w ewythr Llywelyn ap Gwilym gael ei lofruddio tuag 1346 y gadawodd Dafydd ei hen gynefin am Forgannwg: 'Lledigroeso fuasai Dyfed i Ddafydd mwyach, ei "geinllyw" wedi mynd a'i lysoedd wedi eu difa, a'r gelyn ddyn mewn awdurdod. Tybed nad dyma pryd y ciliodd oddi yno i lys Ifor Hael ym Morgannwg? Rhoir Ifor yn ei flodau rywbryd rhwng 1345 a 1380, ac asia hyn i'r dim â chyfnod tybiedig encil ap Gwilym o Ddyfed', tt. 167-8. Tybiaf y gwelir yn glir mai awgrymu'r posibilrwydd a wneuthum, ac nid ceisio dadlau mai felly y bu, fel y myn Mr. Eurys Rowlands imi ei wneud yn ei erthygl yn Y Traethodydd, Gorff. 1981, 115: 'Y mae D. J. Bowen wedi dadlau fod Dafydd ap Gwilym wedi mynd o Emlyn i Fasaleg, llys Ifor Hael, wedi i'w ewythr Llywelyn ap Gwilym gael ei ladd gan Saeson tua 1346. Gallasai hyn yn rhwydd fod, ond ni allaf i dderbyn fod prawf mewn dadleuon sydd i mi'n ymddangos yn oddrychol ac aniscr eu seiliau.' Ond darllener yr hyn a wir ysgrifennais, a gwelir nad gosod y mater gerbron fel ffaith brofedig a wneir yn fy erthygl, ond fel dehongliad posibl o'r ffeithiau. Cyfeiriais yn ôl at fy erthygl flaenorol yn y rhifyn nesaf o Lên Cymru fel hyn, gan wneud yn eglur eto mai trafod yr hyn a allasai fod wedi digwydd a wneuthum, a dim mwy: 'Ceisiais ddadlau ei bod yn bosibl ddarfod i Ddafydd ap Gwilym encilio i Forgannwg tuag 1346 ar ôl i elynion ladd ei ewythr, Llywelyn ap Gwilym,' t. 36. O ran hynny, dywedais ar ddiwedd fy erthygl gyntaf: 'Bu'n rhaid ymbalfalu llawer iawn yng nghwrs yr erthygl hon, yn niffyg tystiolaethau pendant. Hwyrach y gallesid dehongli'n amgen', t. 171. Awgrymais ddau reswm paham y buasai Dafydd wedi ceisio nawdd Ifor Hael ar adeg o'r fath: am fod i Ifor gysylltiadau teuluol â Dyfed, ac am fod ym Morgannwg draddodiad o wrthwynebu'r weinyddiaeth estron. Yr oedd y ffeithiau hyn, ynghyd â dyddiadau tybiedig Ifor, yn gwlwm o ystyriaethau gennyf. Medd Mr. Rowlands: 'Ond mater arall yw credu fod rhaid i Ddafydd ap Gwilym fynd cyn belled â Basaleg i chwilio am noddwr teilwng o wrth-Seisnig wedi lladd Llywelyn ap Gwilym, ac mai dyna pam yr aeth yno', t. 115. Nid ysgrifennais y fath beth, ac mae cwrs hanes Cymru tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg ac anesmwythyd y cyfnod yn gwarafun i neb feddwl mai ym Morgannwg yn unig y gallasai'r bardd geisio cydymdeimlad. Ond yn wahanol i Ddyfed a chynefin cynnar Dafydd yng ngogledd Ceredigion, yr oedd Morgannwg tu allan i diriogaethau'r Tywysog Du. Namyn un o'r ystyriaethau ynglŷn â'r ffaith fod ap Gwilym wedi ymsefydlu ryw dro yn llys Ifor Hael ydoedd hyn oll gennyf, ac nid dadl hunangynhaliol, fel y cyfleir gan yr hyn a ysgrifennodd Mr. Rowlands. (Er bod elfennau gwrth-Seisnig yng nghanu Dafydd i'w noddwr ym Masaleg, dylid cofio bod elfennau o'r fath yn perthyn i gonfensiwn arbennig, fel y nodais gynt, t. 169. Mae'r ymwybyddiaeth genedlaethol yn y bedwaredd ganrif ar ddeg yn bwnc dyrys a diddorol, ac felly