Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyfraniad Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Y Blynyddoedd Cynnar NID oes llawer o amheuaeth bellach mai Owen Morgan Edwards a symbylodd sefydlu Cymdeithas Dafydd ap Gwilym.* Dyma a geir ganddo mewn nodyn yn Cymru, 26 (1904) 88: Wrth ddarllen hen ddyddiadur ddoe, gwelais nodyn fel hyn,®‘A fedrir cychwyn cymdeithas Gymreig yn Rhydychen; gofyn i D. M. Jones'. Deheuwr bywiog, o athrylith wasgarog, Eglwyswr, ac aelod o Goleg Worcester oedd D. M. Jones; Gogleddwr araf, diwreichion, Ymneilltuwr, ac aelod o Goleg Balliol oeddwn innau. Aethom am dro ein dau gyda'n gilydd, yn ngwanwyn 1886, a meddyliasom pa dda a pha ddrwg ddoi o gymdeithas Gymreig yn Rhydychen. Hyd y gwyddem nid oedd y Cymry wedi arfer ymgyfarfod, ac ychydig iawn o drafferth oedd neb yn gymeryd i ddangos mai Cymro oedd Teimlem mai da fyddai cymdeithas hollol amholiticaidd a dienwad, cymdeithas fechan, i ymddifyrru gyda llenyddiaeth Gymreig, ac i gyfarwyddo pob dyfodiad o Gymro welid yn Rhydychen. Fe ddywedwyd mai D.M. neu David Morgan Jones a symbylodd sefydlu'r Dafydd.' Daethai ef Rydychen, i Goleg Worcester, ar ôl bod yn ben bachgen yng Ngholeg Llanymddyfri. Dywed W. Llewelyn Williams a oedd o'r un ysgol (neu goleg) â D. M. Jones ac â Daniel Lleufer Thomas, fod Coleg Llanymddyfri 'mor ddi-Gymreig, os nad gwrth-Gymreig' yn eu dyddiau hwy fel nad yw'n rhyfeddod fod y tri wedi cyrraedd Rhydychen yn anwybodus iawn o lenyddiaeth Cymru. 'Achubwyd ni fel pentewynion o'r tân gan y Dafydd. Credaf i bawb ohonom dderbyn mwy o les ysbrydol a meddyliol yn y Dafydd nag mewn un dosbarth yn y Brifysgol'.3 Fe ffolodd D. M. Jones ar delynegion Ceiriog-yn ei drydedd flwyddyn, meddai Llewelyn Willíams; -ac aeth ati i'w cyfieithu i'r Saesneg: 'roedd yn barddoni, fe ymddengys, yn yr iaith honno, a chawn ei hanes ym 1928 pan oedd yn rheithor yn Eglwys Esgobol Brisbane, yn Awstralia, yn darlithio ar 'Farddoniaeth Gyfoes Cymru', ac yn pwyso'n drwm, gellir awgrymu, ar Y Llenor a dderbyniai'n gyson. Carwn wybod mwy am D. M. Jones, y 'Deheuwr bywiog, o athrylith wasgarog', yr 'Eglwyswr', a'r bardd a brydyddai yn Saesneg, ac am y ffordd y daeth ef ac O. M. Edwards yn ffrindiau, ond yn y cyfamser 'rwy'n barod i gredu fod O.M. wedi cael yr un effaith arno ef, y Deheuwr, ag a gawsai ar J. Morris Jones, y Gogleddwr. Gadawodd J. Morris Jones adroddiad i ni o'i gyfarfyddiad cyntaf ag O.M. a'i gydletywr J. Puleston Jones 'yn eu llety yn rhywle dros bont Magdalen'. Y mae'r ymweliad hwnnw'n un o'r pethau a lyn yn fy nghof. Hyd hynny, ni chyfarfuaswn â neb ymhlith fy nghymdeithion yn yr ysgol na'r brifysgol a chanddo fawr duedd at y pethau a ddenai fy mryd i; ac amheuthun i mi oedd cyfarfod â myfyrwyr oedd wedi dod dan swyn yr iaith Gymraeg a'i llên Er nad oedd Tom Ellis wedi gadael Rhydychen pan euthum i yno gyntaf, ni ddigwyddodd i mi gyfarfod ag ef yno; ond wedi cyfarfod â Phuleston ac Owen Edwards, nid oeddwn mwyach ar fy mhen fy hun. 5 Traddodwyd y ddarlith hon i Gymdeithas Dafydd ap Gwilym, Prifysgol Rhydychen, 6 Mai, 1983, fel y gyntaf o Ddarlithiau Syr John Morris-Jones, a'r Athro D. Ellis Evans, Llywydd y Gymdeithas, yn y gadair.