Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cosmoleg Morgan Llwyd o Wynedd YN Llyfr y Tri Aderyn dywedodd Morgan Llwyd beth na ellid gwneud pen na chynffon ohono'n foddhaol heb gymorth syniadaeth y Gadwyn Bod: Deall hyn hefyd, wneuthur o Dduw ddyn ym merion põb creadur (megis cynhwyllin y byd mawr), fe anadlodd Duw oi enau ei hun ei anadl ynddo iddo, a hwnnw a bery byth. Ei ysbryd naturiol sydd drwy gyd-gynhulliad y ffurfafen, ai gorph or pedwar defnydd. Mae dyn Duw yngyfrannog ar ser mewn tegwch, ar planhigion mewn tyfiant, ac ar anifail mewn synhwyrau cnawdol (y rhai yw'r enaid naturiol:) yn gyfrannog hefyd ar Angelion mewn deall tragwyddol, ac a Christ yn y natur nefol. Meddwl wedi ei drwytho yn syniadaeth draddodiadol y Gadwyn Bod a allai gysylltu dyn â'r sêr, a'r planhigion, a'r elfennau, a'r angylion ac â'r Logos. Ni ellid amgenach crynhoad, ond odid, na geiriau E. M. W. Tillyard parthed hanfod y meddwl mediefal mawr hwn: In the chain of being the position of man was of paramount interest. He was the nodal point and his double nature, though the source of internal conflict, had the unique creation, of bridging the greatest cosmic chasm, that between matter and spirit. Prin y ceir enghraifft a ragorai ar y Llwyd yn Gymraeg o ran eglurder y meddwl traddodiadol hwn-ei 'ddyneiddiaeth' etifeddol. Rhaid disgwyl hyd Twm o'r Nant i'w weld ar ei orau drachefn, er bod Ellis Wynne, wrth gwrs, a sawl un arall yn ddiau, yn cyfranogi o'r un etifeddiaeth ganoloesol. Trefn drwy'r cosmos o'r brig rhagoraf hyd at y bôn distatlaf oedd nodwedd fawr gynhaliol y Gadwyn Bod,3 ac yr oedd i bopeth drwy'r greadigaeth gysylltiad hanfodol a dosbarthiadol fanwl â'i gilydd drwy gyfrwng 'pont' neu is-ysgol 'letraws' y pedair elfen. Ffurfiai pob dolen yn y Gadwyn neu bob dosbarth neilltuol, gadwynau cydgysylltiol annibynnol ond trwyadl gyd- ddibynnol hefyd. O fewn pob dosbarth ceid ysgolion neu is-ysgolion yn cynnwys rhagoriaethau yn esgyn o'r radd isaf neu ddistatlaf hyd at yr ardderchocaf ar frig y dosbarth penodol. Y dosbarth isaf yn y Gadwyn oedd y pethau materol, ansymudol, a difywyd, sef sylweddau. Uwchlaw hwn yr oedd dosbarth y llysiau neu'r planhigion a hwnnw drachefn yn cynnwys graddau mewn rhagoriaeth yn ymestyn o'r bôn i'r brig; e.e., gradd ardderchocaf is-gadwyn y blodau oedd y rhosyn, gyda'r dderwen ar frig is-gadwyn y coed. Oddi yno esgynnir i fyny'r Gadwyn at ddosbarth y creaduriaid a'r tro hwn ceid y llew yn rhagori ar y bwystfilod, yr eryr ar rywogaeth yr adar, a'r morfil yn ei lordio ar y pysgod. Canol y Gadwyn, a'r dosbarth rhagoraf ar y ddaear, oedd dyn, ac 'roedd y Llwyd yn gwbl eglur a phendant parthed y gwirionedd hwn. 4 O'r herwydd cyfranogai dyn o'r cyfanswm nodweddion a berthynai i'r dosbarthiadau is nag ef yn y Gadwyn, sef y nodweddion dosbarthiadol neilltuol hynny a ragorai ar y dosbarth o'i flaen wrth esgyn y Gadwyn at ddosbarth dyn: symudiad, teimlad a chlyw. Safai dyn uwchlaw'r dosbarthiad- au a nodweddid gan y synhwyrau yn sgîl ei ddeall neu ei reswm, cynneddf ddyrchafedig a'i codai ben ac ysgwydd uwchlaw'r dosbarthiadau difywyd, y llysieuol a'r creaduraidd. Ef yw'r microcosmos sy'n cynnwys cyfanswm amrywiaeth cydgysylltiol y ffenomenâu daearol naturiol.