Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Stori Dditectif Feddygol MAE prif nodweddion yn afiechyd newrolegol prin hwnnw a elwir yn 'corea Huntington' yn gyfarwydd i bob meddyg. Maent yn cynnwys dementia, sef dirywiad cynyddol ac anwelladwy yn y cof a'r bersonoliaeth (tebyg i'r hyn a geir yn aml yn yr henoed), a symudiadau annirfoddol (corea). Ceir dirywiad graddol mewn effeithlonrwydd deallol, yn dechrau fel arfer rhwng 30 a 50 mlwydd oed. Hefyd y mae'r symudiadau gwirfoddol yn mynd yn drwsgl, anystwyth ac anghymesur. Yn nes ymlaen ceir symudiadau annormal ac annirfoddol, sef plyciadau sydyn sy'n effeithio ar rannau helaeth o'r corff yn enwedig yr wyneb a'r breichiau. Mae'r lleferydd yn mynd yn aneglur ac mae'r cerddediad yn dirywio ac yn mynd yn ansicr iawn. Nid oes unrhyw driniaeth sy'n dylanwadu ar ddirwyiad cyson a chynyddol y claf. Y mae'n gwbl ddiymadferth tuag at y diwedd ac mae'n debyg o farw ymhen rhyw ddeuddeg i bymtheg mlynedd (Myrianthopoulos [1966]). Mae'n siwr fod hyd yn oed disgrifiad moel fel hwn yn ddigon i ddangos fod yr afiechyd hwn yn anghyffredin o greulon a didostur. Ond nid dyna ddiwedd y stori. Y mae iddo arwyddocâd cymdeithasol trasig a phell-gyrhaeddol. Daw hyn â ni at y ffaith bwysig fod corea Huntington yn cael ei etifeddu, a mwy na hynny ei fod yn cael ei drosglwyddo gan un genyn llywodraethol (dominant gene). Yn ystadegol, mae hyn yn golygu y bydd hanner plant y person sydd wedi ei dynghedu i ddatblygu corea Huntington (yn anffodus, o safbwynt ewgenegol, nid yw'r afiechyd yn ymddangos tan ar ôl oedran cael plant) hefyd yn debyg o ddatblygu'r afiechyd yn nes ymlaen yn eu bywydau hwythau. Y mae'r ffaith nad yw'r afiechyd yn ymddangos tan y canol oed cynnar yn esbonio'i barhad a'i ledaeniad. Effeithir ar ddynion a gwragedd yn ddi-wahân. Y mae'r modd y trosglwyddir yr afiechyd hwn yn ei wneud yn gyflwr hynod ddiddorol yng ngolwg meddygon. Ychydig iawn iawn o anhwyldebau sy'n cael eu hetifeddu a'u trosglwyddo mewn ffordd mor syml, uniongyrchol a diamwys â hwn. Dywedir fod cleifion sy'n mynd i ddatblygu'r afiechyd yn debygol iawn o feddu ar bersonoliaethau annormal, o fod yn oriog ac yn llidiog ac yn debyg o'u hesgeuluso'u hunain, eu teuluoedd a'u cartrefi. Maent yn arbennig debygol o ymddwyn mewn ffordd seicopathig, ac y mae nam meddyliol, alcoholiaeth ac ymddygiad troseddol yn gyffredin iawn yn eu plith hwy ac ymhlith eu perthnasau agosaf. Y mae tuedd at hunanladdiad hefyd yn gyffredin yn y cleifion ac yn eu perthnasau. Disgrifiodd Huntington y cyflwr fel "y math hwnnw o wallgofrwydd sy'n arwain at hunanladdiad", a sylwodd Bickford ac Ellison (1953) ar hyn yn eu hastudiaeth o nifer o achosion o corea Huntington yng Nghernyw. Y mae'n naturiol fod aelodau'r teuluoedd hynny sy'n cynnwys nifer o achosion o'r afiechyd yn byw mewn arswyd parhaol. Wrth i'r symudiadau annirfoddol ddatblygu, mae'r claf yn mynd yn feudwyaidd ac yn ddrwgdybus. Mae'r cyfuniad o chwerwedd, trallod, drwgdybiaeth a thymer ddrwg, yn aml yn peri iddo gyhuddo eraill o bob math o ddrwg weithredoedd dychmygol. Gan iddo fod mor sbeitlyd, mor gwerylgar