Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Gwyn Thomas yn ateb cwestiynau Gerwyn Williams (21.9.83) Cwestiwn: Fel llenor sy'n llenydda drwy gyfrwng y Gymraeg, beth, gredwch chi, yw eich prif swyddogaethau? Ateb: Mae'n anodd iawn ateb y cwestiwn yna ar ei ben achos mae'r syniad sy gan rywun am swyddogaeth neu swyddogaethau yn newid fel y mae dyn yn mynd yn hyn. Mi ddechreuais i arni, fel petai, a 'doedd bod yn 'fardd' ddim yn rhywbeth oedd ag atyniadau mawr ato. Go brin y gallech chi sôn, efo'r ffrindiau oedd gen i yn hogyn, am farddoniaeth neu fawr o ddim byd felly. Mi fasa chi'n tueddu i gadw rhyw dueddiadau felly dan eich het. Ond 'roedd gen i ddiddordeb mewn geiriau, a 'dwi'n meddwl mai dyna'r brif swyddogaeth — trin geiriau. Mi allwch chi ddweud: 'A, wel, 'dach chi eisiau newid cymdeithas' neu rywbeth felly. 'Dwi ddim yn meddwl y gallwch chi newid cymdeithas fel 'na, ac eto, 'rydach chi'n gobeithio fod yna rywbeth yn yr hyn 'rydach chi'n ei ddweud y gwneith pobol sylwi arno fo ac 'rydych chi'ch hun yn chwilio am rywbeth. Ymchwil, mewn ffordd, ydi hi trwy'r adeg. A dyna ydi'r brif swyddogaeth, yr unig swyddogaeth werth sôn amdani yn y pen draw, efallai, sef y trin geiriau 'ma a'r ymchwil sydd yn dal i fynd ymlaen tra bydd dyn, am 'wn i, o archwilio be' ydan ni'n da yma, pam ydan ni yma ac yn y blaen. Hefyd, y pethau sydd o wir ddiddordeb ichi, yn eich diddanu chi neu yn eich cythryblu chi. Dyna ydi'r brif swyddogaeth. C: A ydi hi'n anos cyflawni'r swyddogaethau hynny oherwydd mai barddon- iaeth yw eich dewis gyfrwng? Faint o rym sydd i farddoniaeth yn yr oes sydd ohoni? A: Tasa chi'n cyfri'r llyfrau o farddoniaeth sy'n cael eu prynu, mi fasa chi'n meddwl mai ychydig iawn o rym sy 'na i farddoniaeth. Ond mae 'na ryw rym cudd i'r peth, a 'dwi'n meddwl fod 'na gysylltiad dwfn rhwng barddoniaeth a chanu er y gallech chi ddadlau fod canu pop a phethau felly ddim yn farddoniaeth, ac yn wir, mi fuaswn i'n dal fod yna wahaniaethau pwysig rhwng canu a barddoniaeth. Ac eto, un o'r pethau sylfaenol mewn canu a barddoniaeth ydi mynegi teimlad efo rhythmau arbennig ynddo fo. Dyna ydi barddoniaeth, i ryw raddau. Mae hi'n fwy 'na hynny, wrth gwrs. Ond mae mynegi teimlad rhythmig neu hyd yn oed fyfyrdod rhythmig yn rhan bwysig o'r peth. Petaech chi'n ei ystyried o efo'r olwg yna, 'dwi'n meddwl^ gallech chi ddweud bod geiriau ar rythm arbennig yn dal i fod yn eithaf cyrhaeddgar. Ac wrth gwrs, mae 'na rai geiriau sydd yn fwy cyrhaeddgar fyth. Mae 'na rai cerddi yn dod yn boblogaidd; mae pobol yn eu cofio nhw ac yn cael rhyw ddiddanwch o ddarllen y geiriau neu o'u dweud nhw. Ynglŷn â 'dewis gyfrwng', fuaswn i ddim yn meddwl eich bod chi'n dewis cyfrwng yn gymaint â bod eich cyfrwng yn eich dewis chi yn y pen draw. 'Dydw i ddim yn licio gorwahaniaethu rhwng be' ydi cerdd ac a ddylai hi fod y siâp hyn neu'r siâp arall, na gorbwysleisio'r gwahaniaeth rhwng barddoniaeth neu unrhyw gyfrwng arall. 'Dwi'n meddwl mai diddordeb yn nerth geiriau ydi o yn y pen draw un.