Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

gorfod adweithio i bwerau dychrynllyd o newydd. Mae'r gyfrol yn cymell atgofion am rai o'r cymeriadau y cyfeirir atynt, ac y mae hynny yn ychwanegol at ei diddordeb ac o gofio bod bron bob treflan yng Nghymru rywbeth yn debyg yn y 30au a'r 40au, byddaf yn meddwl am fy mhentref genedigol fy hun, Llanberis, lle'r oedd A. J. George, B.A., B.D., yn Seion gyda'r Bedyddwyr, J. P. Davies, M.A., yng Nghapel Coch, R. O. Hughes ym Mhreswylfa, John Pritchard, M.A., B.D., yng Ngorffwysfa, y naill Weinidog ar ôl y llall gyda'r Wesleaid, Ben Owen yn Nant Padarn, Y Ficer Thomas a'i gurad yn yr Eglwys Esgobol ac erbyn heddiw yn nyddiau'r Heidro ac Oriel Eryri Capel y Bedyddwyr yn Warws, a hwnnw erbyn hyn wedi mynd a'i ben iddo, Preswylfa yn ffatri, Gorffwysfa yng nghanol y pentref wedi ei ddymchwelyd i'r liawr, y Capel Wesle wedi ei achub yn fangre addoli gan y Pabyddion yn enw rhyw sant John Jones — jôc y Pabyddion, mae'n debyg. 'Roeddwn i'n adnabod sawl John Jones a wisgai drowsus melfared ond 'chlywais i erioed fod un ohonynt yn sant a byddai William Jones yn taro'n well yn Llanberis, Y Neuadd Sinema yn adeilad dan nawdd y Lleng Brydeinig a Bingo yno ar nos Sul. Dim un Gweinidog yno heddiw ond meddylier am y nifer yna o weinidogion mewn pentref ar £ 200 fwy neu lai o gyflog y flwyddyn a Mans fel bonws, ond pob un ohonynt yn weithgar ac wrthi o fore gwyn tan nos gyda'i bobl. Dyna beth o rin y gyfrol- dwyn ddoe yn ôl, ond doe sy'n sefyll mewn barn arnom erbyn heddiw. Mae'n arwyddocaol fod y bennod gyntaf yn rhychwantu'r cyfnod rhwng Cynhadledd Lausanne 1927 (22) pan oedd holl eglwysi cred yno ar wahân i eglwys Rufain yn datgan eu cred yng Nghredo Nicea a Chredo'r Apostolion,achyhoeddiynSaesnegym 1977, The Myth ofGod Incarnate, sef cais i wneud yr Efengyl yn ddealladwy i oes seciwlar a'r farn yn cael ei mynegi bod y llyfr hwnnw wrth wadu'r Ymgnawdoliad yn gyfystyr â gwadu sail Cristionogaeth (54). Bron na ddywedwn i fod popeth a drafodir yn y gyfrol yn cael eu cyffwrdd yn y bennod gyntaf, 'Yr Hen a'r Newydd'a mantais fyddai ailddarllen hon wedi ymlwybro drwy weddill y gyfrol. Ac er bod yr awdur wedi ei gyfyngu ei hun yn fyddlon i'r hanner can mlynedd, yr hyn sy'n ychwanegu at werth y gyfrol yw ei bod yn ysgogi dyn i ystyried beth a'n dygodd i 1927 a beth yw'r dilyniant o 1977. Cwbl amhosibl yw sylwi'n fanwl ar un o'r penodau heb sôn amdanynt i gyd, ond yr hyn sy'n codi i'r wyneb yn y bennod gyntaf yw'rymwrthod â'rtrosgynnol, ygoruwchnaturiol, ametaffiseg, a hyn yn arwain mewn nifer o gyfeiriadau drwy'r gyfrol at y pwyslais ar ddyn a'i ddatblygiad a'i brofiad personol, diwinyddiaeth yn troi yn anthropoleg ac yna unigolyddiaeth, pietistiaeth, tawelyddiaeth, yr effaith ar y ddysgeidiaeth am Berson Crist, dyn, eglwys a gwleidyddiaeth. Nantlais yw'r un sy'n canu'r corn rhybudd yn enw uniongrededd a'r hyn sydd wedi ei ddychryn yw, 'Catholiciaeth, Moderniaeth a Bolshefiaeth.' Ynglyn â'r Foderniaeth, Bannau'r Ffydd, Miall Edwards, yn ôl J. E. Daniel a ddatgelodd orau nodweddion Moderniaeth. 'Profiad', medd un arall, 'nid Datguddiad yw gwraidd y Ffydd y 'mwyaf yw Iesu Grist nid y Mab Ymgnawdoledig; (4). Fel yna yn gryno y gosodir yr hyn a ddaeth i ni o'r Aroleuo (Aufklärung) a Moderniaeth a Rhyddfrydiaeth Ddiwinyddol. Dyma nifer o ddyfyniadau, 'Os oedd Ffwndamentaliaeth ar brydiau yn magu ysbryd trahaus, yr oedd Moderniaeth yn gwneud gwybodaeth ddynol yn bopeth' (5). 'Mynegwyd pryder fod yr ymgais i esbonio popeth fel cynnyrch proses o ddatblygiad yn golygu'n rhesymegol ymwrthod â'r goruwchnaturiol ac amddifadu Crist o ystyr tu allan i'r proses ei hun'( 10). 'Term di-alw-amdano oedd y goruwchnaturiol'(l9). 'Nid oes angen i ni ymboeni am Dduw a'r goruwchnaturiol gan fod lesu'n fwy na digon i'r profiad crefyddol' (29). 'Dylid diwinydda yng ngolau'r dyn a ddaeth i'w oed y dyn cyfoes nad yw'r goruwchnaturiol yn golygu dim iddo oherwydd daw ef o hyd i Dduw yng nghanol bywyd' (33). Ar y llaw arall dywedir, 'Pan amddifedir Cristionogaeth o'r elfen drosgynnol nid Cristionogaeth mohoni eithr yn hytrach system sy'n troi o gylch dyn a'i brofiadau'(32). Mae hon yn un o'r dadleuon sylfaenol sy'n rhedeg fel gwythïen drwy'r penodau eraill, e.e., yn nes ymlaen cawn 'Tegan yr oesoedd tywyll yw'r Goruwchnaturiol' (223). Meddylir am yr eglwys heddiw fel cymdeithas ddynol yn unig — ni phriodolir iddi unrhyw elfen ddwyfol a goruwchnaturiol' (151). Digon yw'r dyfyniadau uchod i beri ein bod yn cydnabod fel y daethpwyd i gredu dan ddylanwad yr Aroleuo fod pob gwybodaeth yn fater o fesur a phwyso (empeiriaeth). 'Does mo'r fath beth a gwybod am wirioneddau tu hwnt i fyd natur fel yr hawlid gynt gan fetaffisegwyr traddodiadol. Erys Duw y tu hwnt i gyraeddiadau rheswm. 'Does dim diwinyddiaeth naturiol ac felly tanseiliwyd y profion naturiol o fodolaeth Duw. Ni all rheswm drafod metaffiseg ac felly ildiwyd y tir yna a symudwyd y profion o Dduw o fyd metaffiseg i fyd y profiad moesol, o'r byd y tu allan i'r byd tu mewn. Symudwyd y pwyslais oddi wrth y gwrthrychau a wybyddir gan y meddwl at y meddwl sy'n eu gwybod (Descartes Kant). Effaith hyn ar ddiwinyddiaeth oedd chwilio am Dduw o fewn