Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Gêmau-iaith, Ymatebion Cyntefig a'r Awydd am Fetaffiseg ERBYN hyn, y mae cryn dipyn o hanes i'r ddadl ar athroniaeth crefydd rhwng Walford Gealy a minnau. Cychwynnodd ei feirniadaeth yn ei erthygl, 'Ffaith a Ffydd', Efrydiau Athronyddol, 1977. Atebais y feirniadaeth hon yn 'Dylanwad Wittgenstein ar Athroniaeth Crefydd', Efrydiau Athronyddol, 1979. Hefyd, y mae fy erthygl 'Crefydd a Diwylliant', Y Traethodydd, 1979, yn berthnasol iawn i'r ddadl. Cafwyd atebion gan Walford Gealy i'r 'ddwy erthygl yn 'Crefydd fel Gêm-iaith', Y Taethodydd, 1980, ac yn 'Sylwadau Athroniaeth Crefydd yr Athro D. Z. Phillips', Efrydiau Athronyddol, 1983. Ymgais yw'r papur presennol i ateb papurau 1980 a 1983.' Er bod Walford Gealy wedi newid ei feddwl am ei feirniadaeth wreiddiol yn ei bapurau diweddarach, 'rwyf am ddweud fod ei feirniadaeth yn fwy meddylgar o lawer na'r mwyafrif o'r beirniaid sydd wedi trafod fy ngwaith yn Saesneg ac ieithoedd eraill. Y mae'r un peth yn wir am ei draethodau diweddarach.2 I Dadleuodd Gealy yn 1977 fy mod wedi gorbwysleisio y gwahaniaeth rhwng ystyr iaith crefydd ac ystyron dulliau eraill 0 lefaru. Dywedodd fy mod yn priodoli otonomi absoliwt i iaith crefydd, ac wrth wneud hynny, yn torri pob cysylltiad rhwng crefydd a rhannau eraill o fywyd dyn. Daw crefydd yn rhyw fath o 'ghetto'ysbrydol, rhywbeth hollol ddiwerth. Mae Gealy ei hun yn mynegi hanfod fy ateb yn E 1979: 'Yn ei ateb yn yr Efrydiau prif achwyniad Phillips yn fy erbyn yw fy mod wedi gwyrdroi ei safbwynt ac, o ganlyniad, wedi ei gamfarnu. Ceir ganddo ddyfyniadau niferus o'i weithiau i brofi fy mod yn ffeithiol anghywir yn fy honiad ei fod yn creu 'agendor rhwng iaith crefydd a dulliau eraill o lefaru' a hynny, am ei fod yn athronydd crefydd a bwysleisiodd otonomi iaith crefydd yn eithafol' (1980). Yn E 1979 dadleuais mai'r gwir anghytundeb rhwng Gealy a minnau yw, yn hytrach, ynglŷn â natur y berthynas rhwng crefydd a'r byd. Erbyn hyn, y mae Gealy yn cytuno: 'Credaf ei fod o hyd yn euog o orbwysleisio arwahanrwydd y gêmau-iaith ond camgymeriad ar fy rhan oedd honni ei fod, fel canlyniad, yn gwadu perthynas rhwng iaith crefydd a dulliau eraill 0 lefaru. Yr hyn y dylaswn fod wedi ei ddweud yw fod Phillips yn rhoi cyfrif anghywir o'r berthynas rhwng iaith a gêmau-iaith eraill.' (1980). Wrth drafod natur fy 'nghyfrif anghywir', mae dau fath o feirniadaeth gan Gealy, er bod cysylltiad rhyngddynt: (a) beirniadaeth o'r syniad sydd gennyf am ymatebion crefyddol arbennig; (b) beirniadaeth o'r syniad fod ystyr credoau crefyddol ac ystyr realiti Duw yng nghlwm wrth ymatebion crefyddol. Y mae'r ail feirniadaeth yn fwy sylfaenol 0 lawer na'r feirniadaeth gyntaf, ac mae ateb y feirniadaeth hon yn ein harwain at wraidd cwestiynau canolog athroniaeth. Ond gair yn gyntaf am feirniadaeth Gealy ynglŷn ag ymatebion crefyddol arbennig. II Yn ôl Gealy, credaf o hyd, fel Wittgenstein yn ei Tractatus, fod gwahaniaeth