Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

A Walesi Bardok Beirdd Cymru Iorwerth frenin, brenin Lloegr, Ar ei geffyl gwyn yn gyrru; "Mynnaf wybod" meddai "gymaint Yw fy nhiroedd i yng Nghymru. "A oes porfa dda ac afon, Lle mae'r gwair yn tyfu'n drwch A fu gwaed y gwrthryfelwyr Yn syrthio'n wrtaith yn ei llwch? A yw'r bobl, y werin druan Cyn ddedwydded yn parhau A ddymunais, fel mae'r ychen Wrth yr aradr dan yr iau?" "Cymru yw yr em brydferthaf, Frenin, yn dy goron di; Mae afonydd a dyffrynnoedd, Porfeydd breision, ynddi hi. Am y bobl, y werin druan, Fawrhydi, o ddedwydded hwy! Fel beddau mud yr anheddau i gyd Sy'n ddistaw ym mhob plwy." Iorwerth frenin, brenin Lloegr, Ar ei geffyl gwyn yn gyrru. Lle bynnag try distawrwydd sy' Dros ei diroedd ef yng Nghymru. Trefaldwyn ydoedd enw'r dref, Lle troes ar ddiwedd dydd; A Maldwyn ydoedd enw'r Iarll, A roes iddo groeso'n rhydd. Pysg, helwriaeth, pob pasgedig A flinai'r llygad, flinai'r dant; Gwegiai'r byrddau dan bwys y seigiau A gyrchid gan osgorddion gant. Popeth gynigiai'r ynys brydferth O ddiod ac o fwyd yn stôr, AY gloyw win yn byrlymu ei rin, Ffrwyth gwledydd dros y môr. "Chwi Arglwydd! onid oes un A fynn yfed fy iechyd i? Chwi Arglwyddi, cwn o Gymry! Oni ddymunwch lwydd i mi?