Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Gellid ychwanegu llais a elwid chwatrebl (Saesneg canol Quatreble) oedd â chwmpas o bump nodyn yn uwch na'r trebl, fel pedwerydd llais i'r triawd o trebl, mên a bas. Ni wyddys a geid cyfeiliant organ i'r faburden. Mae cyfeiriadau llenyddol fel pe baent yn awgrymu defnyddio'r organ yn lle'r lleisiau neu roi'r organ a'r lleisiau i ganu am yn ail. Gwyddys y trefnid i'r organ a'r lleisiau ganu yn y modd hwn ar ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg, ond hyd yma ni ddarganfuwyd ond un cyfeiriad cynharach at y modd hwn o berfformio. Yn y flwyddyn 1447, dysgwyd mynaich a bechgyn côr Eglwys Gadeiriol Durham i chwarae'r organ ac i ganu 'ad organum des- cantandum'.18 I gerddor o'r Oesoedd Canol, golygai'r term 'descant' arddull ddifyfyr o ychwanegu rhannau at blaengan mewn dull sy'n perthyn yn agos ìfaburden. Mae'n bosibl felly bod arfer yr unfed ganrif ar bymtheg yn adlewyrchu arfer traddodiadol cynharach.19 Daw'r cyfeiriad cynharaf yn Gymraeg at desgant, hyd y gwyddus, mewn cerdd o'r bedwaredd ganrif ar ddeg gan y bardd Sypyn Cyfeiliog: 20 a desgant adar tradoeth i trydar. Dengys Dafydd ab Edmwnd yn ei farwnad enwog i'r telynor Siôn Eos (ail hanner y bymthegfed ganrif) ei fod yn gyfarwydd â'r ysgol gân:21 Torred ysgol tŷ'r desgant, Torred dysg fal torri tant, ac mewn cywydd moliant i Ddafydd ab Owain, Abad Ystrad Marchell, canmolir safon cerddorol yr Abaty:22 A sain organ ar gan gwyl, A desgant yn ei disgwyl, A musig oll ymysg gwin, A melodio mewn Lladin.