Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhydd erthygl Robert Owen Jones ('Change and Variation in the Welsh of Gaiman, Chubut') ddadansoddiad cynhwysfawr a manwl a ddengys gyfraniad astudiaethau cyfoes o gymdeithaseg iaith tuag at ddeall y ffactorau sy'n gyfrifol am newid ieithoedd ymhlith siaradwyr. I'r awdur hwn, mae gwahaniaethau oedran yn ffactor hanfodol yn y ddadansoddiad sy'n caniatáu mesur newid. Mae'r astudiaeth yn seiliedig ar nifer dethol o nodweddion ieithyddol sy'n cael eu disgrifio mewn perthynas ag oedran, crefydd, addysg, ac ymdeimlad tuag at ddiwylliant (Cymraeg neu Sbaeneg). Casglwyd y deunydd trwy ddulliau arbrofol yn bennaf yn hytrach na dulliau naturiol cyfyd y cwestiwn pa mor naturiol oedd y siaradwyr ond, o ystyried cymhlethdodau'r dadansoddiad, go brin y byddai'r awdur wedi llwyddo i gyrraedd ei nod ar sail dulliau naturiol. Symleiddiwyd y dadansoddiad gan drefnu'r cyfuniad o'r ffactorau ar raddfa o 0 i 9. Ond mae'r dechneg hon yn cuddio gwahaniaethau — gellid sgorio 6, er enghraifft, ar sail nifer o gyfuniadau. Mae'r erthygl hon yn gyfoethog iawn o safbwyntiau disgrifiadol, esboniadol a methodolegol. Mae yna wahaniaethau, wrth gwrs, rhwng statws y Gymraeg ym Mhatagonia a Chymru, ond dengys yr awdur sut y gall astudiaeth ofalus gyfrannu at ddeall problemau cyfoes. Mae erthygl yr Athro Glanville Price ('Welsh as a Literary, Standard, and Official Language') yn cloi'r gyfrol. Mae'r erthygl hon yn pwysleisio elfen sy'n tueddu i fynd ar goll ar adegau sef, yr angen am ystyried yr iaith safonol a'r cysylltiadau rhyngddi a'r tafodieithoedd. Mae'r awdur yn pwysleisio pwysig- rwydd yr iaith ysgrifenedig fel dylanwad safonol. Ond dylid pwysleisio hefyd fod y gwahaniaethau rhwng yr iaith ysgrifenedig a'r tafodieithoedd yn achosi problemau addysgiadol ac anawsterau cymdeithasol, problemau sy'n cael eu dwysáu gan safbwyntiau argymhellol. Adran Addysg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth. BOB MORRIS JONES