Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

KATINKA REDIVIVA (20 Ebrill, 1988) Yn siriol mewn gwisg olau las i'r Ysbyty yn Nhreforys yr aethost a dod yn ôl gyda gwên 'Chi yw'r gorau o'n cleifionf' 'Adferiad llwyr a buan'? Llwyr, ie, gobeithio, ond nid mor fuan. Tri mis mewn plastr yn fawr d'amynedd. Tithau yn mynnu o'th gaethiwed gael meistroli'r Amstrad, a minnau'n cael gweini a siopa, Dy Ufudd Was, a phrofi'r golchwr-sychwr newydd (Y Ddraig o Ferthyr) a choginio dan gyfarwyddyd. Mor hardd yw'r wên orchfygol sy'n anghofio'r gwaed a lifodd. 'Rwy 'n credu bod rhywbeth wedi torri Heddiw mae'r coed lelog a cheirios yn eu blodau i'th gyfarch. JOHN GWYN GRIFFITHS DUW Pan ddaeth Gagarin awstronawt o'i drip trwy'r gofod fry lle na bu dyn erioed "Ni welodd Dduw" medd Krushev, a rhoes chwip ar gefnau yr hygoelus yn ddi-oed. Ni welodd Dduw. Druan o'r Marcsydd hwn ar lawr ei Gremlin â'i resymeg wyr yn chwilio am Gynhaliwr cread crwn mewn man nas ceffir Ef er chwilio llwyr. Yn nwfn y galon lle y profwn loes cnofeydd cydwybod neu orfoledd nef, yn rhodiad y Crist-debyg dan eu croes ac yn y Gair a gnawdiwyd y mae Ef. Yno y mae er hyfdra ein hoes faw, yno a'r waredigaeth yn ei law. JOHN EDWARD WILLIAMS