Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Tywysog Tangnefedd Dywedodd Edward Denney unwaith fod termau diwinyddol fel arian bath yn colli eu gwerth a'u hystyr trwy orddefnydd a thraul, a bod angen eu galw i mewn a'u hailstampio bob hyn a hyn. Mae geiriau fel 'cyfiawnhad' a'r 'Fam', er enghraifft, yn newid eu naws yn ôl eu cyd-destun ac yn mynd yn syniadau swrth. Tuedd pob diwinydd yw eu dehongli yn ôl fframwaith ei ragdybiadau ef ei hun, a hynny weithiau yn ôl ffasiwn y dydd. Mewn oes ddiwydiannol, e.e., dehonglwyd y Farn mewn termau masnachol- Duw yn setlo dyled trwy dalu'r ddirwy. Mae ailddehongli cyson yn angen- rheidiol, ond fe all y termau fynd yn ddiystyr i bawb ond yr arbenigwyr ac y maent hwythau'n cael hwyl ar anghytuno. Mae'r un peth yn wir am dermau gwleidyddol. Beth yw ystyr 'democratiaeth'. Nid yr un syniad sy gennym ni ag a oedd gan y Groegiaid; mae gagendor rhwng yr ystyr a roddir iddo yn y Tý Gwyn a'r Castell Coch. Mae'r Undebau a'r Llywodraeth yn defnyddio'r gair yn huawdl i gyhuddo'i gilydd. Mae pawb yn honni ei fod yn ddemocrat. Dangosodd T. D. Weldon y dryswch sy'n dilyn am fod pobl yn defnyddio mewn ffyrdd gwahanol eiriau fel 'gwladwriaeth', 'awdurdod', 'hawliau', rhyddid'. Nid yn unig mae awduron yn anghytuno â'i gilydd ond maent yn defnyddio'r geiriau a rhoddi ystyron gwahanol iddynt yn ôl eu cyd-destun. Mae llawer o ymrafael a niwlogrwydd yn digwydd am nad ydym yn glir ein meddwl. (Beth yw 'Cymru, 'Cymro' y 'ffordd Gymreig o fyw?'). Sylweddolir bod llawer o siarad gwag yn digwydd ynglyn ag addysg am nad ym yn poeni i roddi ystyr glir i'r termau a ddefnyddiwn. Gwnaed dadelfeniad gwerthfawr gyda thermau addysg gan athronwyr fel Hirst ac O'Connor. I Un o'r termau a lygrwyd trwy orddefnydd gan wleidyddwyr a chrefyddwyr yw 'Heddwch'. Mae pawb yn dymuno heddwch, pawb yn credu mewn heddwch ond nid oes gytundeb beth a olygir gan y gair. Mae gennym ddau air yn y Gymraeg heddwch a thangnefedd i gyfateb ag un gair yn Saesneg peace ac un gair yn yr Hebraeg Shalom. Mae'r ddau air Cymraeg yn awgrymu bod dwy ystyr neu o leiaf ddwy agwedd i'r syniad, ond fe'u defnyddir yn aml ar draws ei gilydd fel pe baent yn gyfystyr. Ond weithiau fe'u cynigir fel dau alternatif. Ac mae dryswch yn dilyn, dryswch sydd ar adegau yn annhangnefeddus. Yn gyffredin meddylir am dangnefedd fel profiad goddrychol y mwynhad o gyrraedd nod, yr hunanfoddhad na all helyntion byd dreiddio