Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Adolygiadau ISAAC THOMAS, Yr Hen Desta- ment Cymraeg 1551-1620 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 1988), tt.351). Llwyddodd y Dr. Isaac Thomas i ddirwyn ei waith ymchwil dros nifer mawr o flynyddoedd ar y Beibl Cymraeg i ben gyda'r ymdriniaeth hon ar hanes cyfieithu'r Hen Destament a'r Apocryffa. Mae'n gymar felly i'w astudiaeth flaenorol Y Testament Newydd Cymraeg 1551-1620 a gyhoeddwyd yn 1976, ac fe'i nodweddir gan yr un trylwyredd a manylder a amlygwyd yn yr astudiaeth honno. Cyhoeddwyd cynnwys y gyfrol ddiweddaraf hon ar ffurf erthyglau yng Nghylch- grawn y Llyfrgell Genedlaethol ac fe'u casglwyd ynghyd i un gyfrol i ddathlu pedwar canmlwyddiant Beibl William Morgan. Yn y ddwy gyfrol dilynir yr un cynllun: ymdriniaeth â'r cynigion cyntaf at gyfieithu darnau o'r Ysgrythur i'r Gymraeg cyn y Diwygiad Protestannaidd; yna trafodaethau ar waith William Salesbury yn arwain at gyfraniad William Morgan ei hun. Ar y diwedd cymherir y fersiwn diwyg- iedig a ymddangosodd yn 1620 â Beibl 1588, ac fel y nodwyd, caiff yr Apocryffa sylw yn ogystal â'r Hen Destament ei hun. Yn y bennod gyntaf trafodir y cyfieithiadau o ddarnau o'r Hen Destament a geid eisoes cyn y Diwygiad Protestannaidd, megis rhai'r Bibyl Ynghymraec, Gwassanaeth Mair, Llyfr Ancr Llanddewi Brefi ac Ystorya Adaf. Ohonynt y daeth amryw o'r ymadroddion a'r geiriau a ddef- nyddiwyd yn ddiweddarach gan gyfieithwyr yn unfed ganrif ar bymtheg. Y cam cyntaf yn ymdrech William Salesbury i drosi'r ysgrythurau i'r Gymraeg oedd ei gyfieithiad o'r llithiau yn y Llyfr Gweddi Gyffredin, yr 'epistolau ac efeng- ylau', a ymddangosodd yn 1551 0 dan y pennawd Kynniver llith a ban. Yn eu plith yr oedd saith darn o'r Hen Destament ei hun (gadawyd un ohonynt, y darn am y wraig rinweddol yn Llyfr y Diarhebion allan o Lyfr Gweddi 1567). Awgryma Dr. Thomas iddo ddefnyddio tair ffynhonnell wrth gyfieithu'r darnau hyn: fersiwn Lladin Sebastian Münster (1535) a argraffwyd gyda thestun Hebraeg yn gyfochrog â'r Lladin, y cyfieithiad Saesneg a adnabyddid fel Y Beibl Mawr (1539) a'r Fwlgat. Y mae tystiolaeth hefyd