Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Heycock a'i Amserau (1867) mor boblogaidd gan rai a'i bregethau, ac i raddau am yr un rheswm, am y crebwyll a ddangosid ynddynt. Yn ôl y Parch. Gomer Roberts, 'tynnodd (Matthews) lawer ar ei ddychymyg wrth eu llunio ill dau'. Yn ei ragymadrodd i Capel a Chomin dywed Ioan Williams mai'r 'prif reswm dros ymgymryd ag astudiaeth o'r pedwar awdur hyn oedd oherwydd y berthynas agos rhyngddynt', oherwydd 'ei bod yn amlwg i'r sawl sydd yn astudio eu gweithiau ochr yn ochr â'i gilydd eu bod ill pedwar yn rhannu pryderon, diddordebau ac amcanion a godai o'u sefyllfa gymdeithasol'. Â rhagddo i ddweud fod y tri chyntaf wedi eu 'magu y tu mewn i enwad y Methodistiaid Calfinaidd', eu bod wedi cael maeth o'r sefydliadau newydd gan y genhedlaeth o'u blaenau. Tyfasant i fod yn arweinwyr eu cenedl yn rhinwedd eu swyddogaeth fel gweinidogion a phregethwyr. Ni allai neb amau eu diffuantrwydd ynglyn â'r grefydd Efengylaidd. Cyflwynent brif wirioneddau'r ffydd Gristionogol i'w cyd-ddynion a hynny gydag argyhoeddiad ac ymroddiad tanbaid. Ar y llaw arall, fel arweinwyr a deallusion, meddent ar gryn ymwybyddiaeth wleid- yddol ac ymroddent yn frwd i athroniaeth ryddfrydol na ellid ei chymodi â'r Galfiniaeth a etifeddasant oddi wrth yr hen dadau. Fe sylwa'r darllenydd fod yr awdur yn uniaethu Cristnogaeth y tri â'u Calfiniaeth ar y naill law, ac ar y llaw arall yn uniaethu eu gwleidyddiaeth â'u hathroniaeth ryddfrydol ac yn maentumio nad oedd cymodi'n bosibl rhwng y safbwynt crefyddol a'r safbwynt gwleidyddol a arddelid ganddynt. Helaetha ar hyn drwy ddweud: Fe'u hysbrydolid gan weledigaeth ramantaidd o fywyd ac ymdrechent i'w gwireddu yn y byd oedd ohoni. Dyma sail eu Rhyddfrydiaeth ac agwedd genhadol eu crefydd, a dyma'r gwahaniaeth rhyngddynt a'r genhedlaeth flaenorol. Hawlia felly fod Rhyddfrydiaeth y tri, a gysylltir ganddo â'u hathroniaeth wleidyddol ryddfrydol, yn seiliedig ar eu gweledigaeth ramantaidd o fywyd a bod honno'n sail i'r agwedd genhadol ar eu crefydd. Efallai mai'r hyn a olyga wrth y gosodiad olaf ydyw bod eu gweledigaeth ramantaidd yn sail i'r agwedd wleidyddol genhadol ar eu crefydd: yn sicr ddigon yr oedd yn eu Calfiniaeth ei hun fwy na digonedd o sail i'r agwedd grefyddol genhadol ar eu gweithgarwch. Heblaw hyn, fe ellir gofyn a oes yma ormod o barodrwydd i briodoli gwleidyddiaeth neu athroniaeth wleidyddol ryddfrydol y tri hyn i'w 'gweledigaeth ramantaidd o fywyd'. Wedi'r cwbl, un o'r gwahan- iaethau mawr rhwng Calfin a Luther oedd fod Calfin yn amddiffyn polisi theocratig ac yn ceisio darostwng y Wladwriaeth i'r Eglwys tra oedd Luther yn barod i ddarostwng yr Eglwys i'r Wladwriaeth. 'Roedd gan y Calfiniaid felly ddigon o sail ddamcaniaethol yn eu