Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Mythau hanes 'Drych y Prif Oesoedd' Yn ei erthygl 'Drych y Prif Oesoedd' a gyhoeddwyd yn Efrydiau Catholig [vi (1954), 34-47], awgrymodd Saunders Lewis fod awdur Drych y Prif Oesoedd wedi llwyddo i gadwyno dwy chwedl am orffennol y Cymry a oedd yn allweddol i ddeall natur hanesyddiaeth yr ail ganrif ar bymtheg a hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif. Gan gyfeirio at ddysgeidiaeth yr Oesoedd Canol am darddiad y Cymry o Gaer Droea, eu ffurfio'n genedl gan Brutus a'u cyfraniad yn yr ymerodraeth dan Facsen a Chustennin, ac yna at ddysgeidiaeth y dyneiddwyr a'u cred fod ym Mhrydain hyd at yr wythfed ganrif Eglwys Brotestannaidd a chanddi'r ddau Destament yn yr iaith Gymraeg, cyflwynodd ddadansoddiad manwl o ddylanwad y ddau fyth hanesyddol ar feddylfryd y Cymry yn y cyfnod. Gan fod awdur y Drych mor gyfarwydd â hanes brut y beirdd a storïwyr yr Oesoedd Canol a datganiadau hynafiaethol gwladgarol y Dyneiddwyr, creodd gyfrol hanes a oedd yn gyflwyniad i fythau hanes poblogaidd y cyfnod. Gellir awgrymu mai yn Nrych Theophilus Evans y ceir y cyflwyniad mwyaf cynhwysfawr i'r damcaniaethau hanesyddol yn ystod y cyfnod 1660-1710 a bod ei hanes yn cynnwys crynodeb manwl o fythau meibion Gomer, hynafiaeth yr iaith a Thwr Babel a derwydd- iaeth yr hen Gymry. Adlewyrchu gweddillion llachar y traddodiad dyneiddiol a wnaeth llenorion yr ail ganrif ar bymtheg yng Nghymru wrth iddynt fanylu ar arwyddocâd eu hanes a chynnwys apologia dros astudio hanes cynnar Cymru ochr yn ochr â materion crefyddol. Byddai Theophilus Evans yn ymwybodol o'r diddordeb a ddangosodd ei gyd-Gymry yn nhrafodaethau a dadleuon y mudiad hanes a hynafiaethol a'u hawydd i roddi ar gof a chadw eu hanes clasurol. Mae'n arwyddocaol fod chwe argraffiad o gyfieithiad Rowland Vaughan, Yr Ymarfer o Dduwioldeb, wedi'u cyhoeddi rhwng 1630 a 1730, a bod yr awdur yn ei lythyr 'At y Darllenydd' yn ei annog i ystyried materion crefyddol ei