Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

cynefindra â dysg y dyneiddwyr yn y cywyddau a ganodd i'r triwyr o'u plith nid yw'n adleisio dim ar eu themâu hwy yn ei ganu ef. Nid yw'n syn canfod mai glynu wrth y ddysg draddodiadol a wnâi ei ddisgybl Wiliam Cynwal yn ei ymryson pwysig â'r Archddiacon Edmwnd Prys (gweler bellach gyfrol gywrain y Dr. Gruffydd Aled Williams, Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal). Ac er bod i ganu Gruffydd Hiraethog ei binaclau hwnt ac yma dichon mai gwir yw'r honiad ei fod yn bwysicach fel dysgawdr beirdd nag fel prydydd ei hun. Y mae i Ruffudd Hiraethog ei arwyddocâd pwysig yn nhwf a dirywiad y traddodiad barddol a chymwynas yr Athro Bowen yw rhoi inni mewn cyfrol gampus olwg crwn ar y pwysigrwydd a'r arwydd- ocâd hwn. Mawr yw ein diolch iddo. GORONWY WYN OWEN M. WYNN THOMAS (gol.), R. S. Thomas: Y Cawr Awenydd (Gwasg Gomer), tt. 116, £ 7.95. Un o'r golygfeydd harddaf yng Nghymru yw R. S. Thomas yn chwerthin. Pe na bai ef mor chwyrn yn erbyn twristiaeth, mi awgrymwn y dylai'r olygfa honno fod yn rhan orfodol o gylchdaith pob un o gwsmeriaid y Bwrdd Croeso. Fe lifai'r doleri i Lyn! O blith y saith cyfrannwr i'r gyfrol gyfansawdd hon, un o'r ddau a ddaeth agosaf at gydnabod synnwyr digrifwch y gwrthrych yw Gwyn Thomas, yr hwn a'i geilw yn Ysbaddeden Bencawr, y clamp o wr anghyffredin hwnnw yn 'Culhwch ac Olwen' 'y mae rhywbeth yn chwithig, ond yn ddigrif ynddo, ond gwr sydd yn ogystal yn gorfforiad o 'ryw rym hen, cyntefig'. Dywed Gwyn Thomas ymhellach y dylid amodi'r "'digrif" yma' wrth gymhwyso'r disgrifiad at R.S., ac (wrth gwrs) deallaf ei bwynt. Eto i gyd, go brin y gall neb weld cymaint o fychander a dwli a ffolineb ac absenoldeb ag a welodd ef ym mywyd dynionach, a dioddef ei weld drwy ei gyhoeddi ar gân, heb ddogn go dda o rywbeth tebyg i synnwys digrifwch. Yr wyf i'n weddol siwr fod Siôn Cent yn ei berson yn dipyn o wàg, a synnwn i ddim nad oedd Hywel ab Owain Gwynedd a Dafydd ap Gwilym yn cael pyliau mynych o iselder. Y cyfrannwr arall i'r gyfrol hon a synhwyrodd nad oedd ac nad yw R.S. bob amser yn ddifrifol yw Pennar Davies. Ysgrifennodd y bardd, meddai, 'laweroedd o gerddi â'i dafod yn ei foch.' Ac nid cerddi'n unig ond rhannau o'r gyfrol hunangofiannol Neb hithau. Y mae M. Wynn Thomas yn dweud ar ddechrau'r llyfr hwn fod ambell gyfrannwr wedi gorfod tynnu'n ôl a bod 'un ysgrif bwysig' heb ddod i law. Tybed a oedd ysgrif ar Neb ar y gweill gan rywun neu'i gilydd? Carwn yn fawr petasai yma ysgrif ar arddull R.S., ar ei ddull o ddyfeisio a datgan delweddau. Ac ysgrif ar sylwadau'r myrdd o Americaniaid a wnaeth fân ddiwydiant o ddehongli ei farddon- iaeth. Fe allai honno hefyd fod yn ysgrif ddoniol. A beth a ddywedasai R.S. ei hun, tybed, petai wedi cael gwahoddiad i lunio'i ymateb i'r sgwrs radio a gyhoeddir yma? Sgwrs yw hi rhwng Gwyn Erfyl a Dewi Z. Phillips, sgwrs a ddarlled- wyd ar achlysur cyhoeddi llyfr Dewi Z., R. S. Thomas: Poet of the Hidden God, sgwrs ddifyr a difrif odiaeth. Dyfynnir ynddi gerddi gwych gan y bardd sy'n mynegi ei ymchwil seithug am Dduw a'i ymdrech seithug i gysylltu ag Ef (er, efallai na chydnabyddai Dewi Z. eu bod yn seithug); a dywedir pethau gwych am y cerddi. Gwyn Erfyl sy'n