Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

often write verses to favourite tunes in praise of their Phillidas, their Annies, and their Delias. But we never meet with them spouting Heroics, (sub tegmine fagi'. At least it is thus in every part of BRITAIN. But some, it seems, are of the opinion that we should write for other countries, climates, and times, rather rhan our own. Bravo! my good Critics!2 Ymddengys y testun byr hwn fel sylw, dernyn, sylwad ychwanegol, o fewn un o destunau Iolo Morganwg, Poems, Lyrics and Pastoral, casgliad o gerddi Saesneg a gyhoeddwyd o dan ei enw gwreiddiol, Edward Williams, yn 1794. Daw ar ôl dwy gerdd, y ddwy ohonynt yn dwyn yr is-deitl 'A Lyric Pastoral', rywle tua diwedd cyfrol gyntaf y casgliad. Mae'r gerdd gyntaP yn trafod y bodlondeb, 'content', o gael byw mewn amgylchiadau naturiol a gwledig. Hynny yw, ar ei ben ei hun mewn cyflwr braf, gyda'r 'happy lot', y tu allan i gymdeithas, ac yn rhydd oddi wrth uchelgais a blys. Mae'n dibennu, er hynny, gyda'r gobaith na ddarganfyddir byth fodlondeb o'r math hwn dymuniad y caiff ymdrechu i fod yn urddasol wrth ddisgwyl yn ostyngedig am 'thou from whom all comfort flows'. Gwahenir y 'fugeilgerdd delynegol' hon oddi wrth yr un nesaf gan gerdd fer yn dwyn y teitl 'A Song'. Disgrifia serch y canwr at Phillis, gan ei gymharu ag amgylchiadau naturiol 'the grove'. Mae'r ail 'fugeilgerdd delynegol', dan y teitl 'The Parting', hefyd yn gerdd serch. Mae'n taflunio yr hyn a fydd yn digwydd tra bo Delia, cariad y bugail a'r canwr Colin, oddi cartref, a'r hyn a fydd yn digwydd ar ei dychweliad. Defnyddir y person cyntaf a chywair myfyriol yn y ddwy gerdd hyn. Prin yw'r symudiadau o ran naratif: y bugail yn codi gyda'r wawr, y carwr a'r cariad yn cofleidio ac yn dod ynghyd. Mae 'The Parting' hithau yn fyfyriol; mae'n olrhain meddyliau Colin wrth i'r cariadon ymadael â'i gilydd. Ond yn y llinellau: I leave thee my constant heart; Thy Colin shall, in plaintive song,5 fe gyflwynir amwysedd o ran persbectif, a'r canwr yn ei arysgrifio ei hun yn y person cyntaf ac yn y trydydd person fel ei gilydd. Nid oes cyfaddefiad uniongyrchol yn y gerdd mai bugail yw'r canwr. Fe dderbyniwn hynny oherwydd fe geir y gair 'pastoral' yn yr is-deitl, yn 'paradestun' i'r gerdd, ac am y rheswm ei fod ef a Delia yn amlwg yn drigolion mewn ardal naturiol. Ni cheir ychwaith ond ychydig o arwyddion bugeilgerddol yn y gerdd 'Content'. Ffocws y gerdd, fe ymddengys, yw perchennog anhysbys rhyw 'sequester'd coat' a 'little flock of sheep', ond wrth weld bugail dyma yntau'n datgan: